Cofio'r Cerddor
Nos Lun Mehefin 20, mi oedd yna raglen arbennig ar C2 rhwng 2200 a 2300 yn dathlu bywyd a thalent cerddorol y gitarydd Tich Gwilym.
Gwesteion Huw Stephens oedd Geraint Jarman, Siân James, Siôn Jones (Maffia) a Owen Powell (Crumblowers a Catatonia). Mae yna gyfle i chi ail glywed gwesteion Huw yn hel atgofion am Tich drwy glicio ar enwau'r cyfranwyr isod:
Siôn (Maffia) Jones - Rhybudd: Iaith Gref
Geraint Jarman yn darllen cerdd deyrnged Prysor
Drwy gydol y nos a thrwy'r wythnos bu llawer yn cysylltu â'r rhaglen gyda'i negesuon a'u hatgofion am Tich. Dyma rai
ohonyn nhw:
Ar donfedd hen wlad fy nhadau, fe fydd
Cymru fach a'i chlustiau
fin hwyr yn dal i fwynhau
dewiniaeth sain dy dannau.
Llion Jones, Penrhosgarnedd, Gwynedd
Diolch Tich. Yr Satriani Cymraeg!
Dafydd Foxhall
Tich oedd y gwir gitar hero Cymraeg! Dwi'n cofio ei glywed yn canu yn Plas Coch Ynys Môn a dotio at ei ddawn ar y strat. Cefais chwarae efo fo mewn cyngerdd roc yn y Coal Exchange yn Gaerdydd yn 2002. Diolch am ei fiwsig a'i fywyd.
Arfon Wyn
Dim ond unwaith weles i Tich yn fyw ond 'odd ei fersiwn e o'r anthem, ar ben ei hun ar ddiwedd y set yn wych.
*Finch
Roedd hi'n fraint ac ysbrydoliaeth gweithio hefo Tich. Colled enfawr.
John Griffiths, Llwybr Llaethog
Hoffwn dalu fy nheyrnged bersonol i un o gitaryddion mwyaf athrylithgar Cymru. Fe fues i'n ddigon ffodus i chwarae gyda Tich ar rai achlysuron - gyda Sian James a Iwan Iwcs. Ar ôl dod i'w nabod roedd o'n hoff o nghyfarch drwy ngalw'n proff - 'how are you proff?' dwedai...roedd hyn yn destun embaras llwyr i mi - os oedd rhywun yn haeddu cael ei alw'n proff yna Tich oedd o! Ond dyna'r math o berson oedd Tich - hollol ddidwyll, hollol onest.
Y tro olaf i mi weld Tich oedd ar set Emyn Roc a Rol - roedd yn actio bod yn Tich Gwilym. Yn anffodus nid oes unrhyw un arall a all fod yn Tich - dim ond ef ei hun. Roedd yn gitarydd a pherson hollol unigryw.
Rydym i gyd yn meddwl amdanat Tich.
Pwyll ap Siôn
Dim ond eisiau dweud diolch am rhaglen wych neithiwr yn talu teyrnged i Tich Gwylim. Roedd e'n hyfryd clywed traciau prin yn enwedig "Crossroads" Robert Johnson yn dangos talent amrwd y dyn. Roeddwn newydd orffen darllen llyfr ar John Peel ar y pryd, a meddyliais falle bod gobaith i radio wedi'r cyfan pan mae emosiynnau bobl yn gallu dod ar draws mor di-dwyll fel y gwnaeth e neithiwr. Diolch Huw am neud beth does dim digon o DJ's yn neud - gwrando - weithiau beth sydd ddim yn cael ei ddweud sydd mwya' pwysig...Teyrnged haeddiannol i'r dyn, heddwch i'w lwch.
Rhys, Llanpumsaint.
Roedd Tich yn arwr mawr i ni pan oedden ni'n griw ifanc a ges i'r fraint o gwrdd a fo cwpwl o weithiau'n weddol ddiweddar. Person hyfryd iawn.
Bydd colled mawr ar ei ôl. Mi fyddaf i a Phil (drymar Vates) i fyny ar ben y Moelwyn heno yn aros i'r wawr godi ar y diwrnod hiraf. Byddwn yn codi gwydryn a tanio smôc bach i'r cawr bach o'r Rhondda.
Trist y dydd, heddiw.
Dewi Prysor
Mae yna lyfr teyrngedau arbennig wedi agor ar safle BBC Cymru'r Byd, os hoffech chi dalu teyrnged i Tich yna cliciwch yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

