Dros benwythnos olaf Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008, cyhoeddodd Swci Boscawen fod y band yn chwalu, ac i'r gig ym Maes B fod eu un olaf.
Ffurfiwyd y band yn 2004 gan Mared Lenny, oedd gynt yn aelod o'r band 'Doli' o Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y pedair mlynedd y bu'r band gyda'u gilydd, fe recordion nhw sawl can sydd bellach yn clasuron, gan ryddhau tair sengl ac un albym.
Eu sengl gyntaf oedd 'Swci / Popeth', a ryddhawyd yn 2005, ac fe ddaeth eu hail sengl - 'Min Nos Monterey / Adar y Nefoedd' allan flwyddyn yn hwyrach. Erbyn hyn roedd y band wedi gwneud tipyn o enw iddynt eu hunain gyda'u caneuon bachog, ac fe ryddhawyd eu hunig albym, 'Couture C'Ching' yn 2007.
Cwta ddeufis aeth heibio wedi iddynt ryddhau eu trydydd sengl, a'r un olaf, 'Un Matchen Sydd Angen / Eira Gwyn' ym mis Mehefin 2008, cyn iddynt gyhoeddi eu bod yn gwahanu.
Ond na phoener, er fod drws Swci Boscawen wedi cau yn glep, mae un arall yn agor, ac er nad yw hi'n fodlon datgelu unrhywbeth ar hyn o bryd, mae gan Mared Lenny gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, ac fe fyddwch yn siwr o glywed lot, lot mwy ganddi yn fuan.
Nos Wener yma (Awst 15fed), rhwng 11pm-1am, bydd Daf Du yn olrhain coeden deuluol gerddorol Swci Boscawen, ac yn sgwrsio gyda Mared ar y rhaglen.
Gwrando
Gwrando'n fyw
Ymlaen nawr: C2: Hefin Thomas (23:02-01:00)
Dwy awr ola darlledu'r dydd yng nghwmni Hefin Thomas.
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

