Hwre! Newyddion da i bobl y byd! Wel i ni'r Cymry beth bynnag, gan fod nifer o fandiau mwyaf Cymru ar daith ar hyn o bryd.
Nos Wener yma mi fydd Radio Luxembourg yn cychwyn ar eu taith. Maes B sydd wedi trefnu'r daith, ac yn ogystal a chael y cyfle i glywed traciau newydd gan Radio Lux, mi fydd nifer o fandiau cyffrous eraill yn ymuno â nhw, ee Yucatan, Eitha Tal Ffranco ac yr Ods.
Dyddiadau a lleoliadau'r daith:
- 18 Ebrill - Y Fic Llithfaen
- 19 Ebrill - Clwb Ifor Bach, Caerdydd
- 26 Ebrill - Neuadd Hendre, Bangor
- 30 Ebrill - The Great Escape, Merthyr Tudful
- 2 Mai - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
- 3 Mai - Milkwood Jam, Abertawe
- 4 Mai - Y Ring, Llanfrothen
Artistiaid eraill sydd ar daith ar hyn o bryd ydi MC Mabon a Swci Boscawen. Eisioes ma' nhw wedi perfformio o flaen gynulleidfaoedd yn Sarn a Llanrwst yr wythnos diwethaf. Mi fydd cyfle hefyd i glywed setiau gan Lowri Evans, Bobs, Yr Ods, MC Saizmuno a'r Angen yn ystod yr wythnosau nesaf, yn ogystal a ychydig o stand up Cymraeg pan fydden nhw'n ymweld a'r brifddinas.
Dyddiadau a lleoliadau'r daith:
- 18 Ebrill - Clwb Rygbi Crymych (+ Lowri Evans)
- 24 Ebrill - Clwb Tafod, Gwesty Nos Da, Caerdydd (+ MC Saizmundo, Bobs, Yr Ods, Stand up Cymraeg - Llinos LL Cwl J, Eils James a Elidir Jones)
- 25 Ebrill - Ty Tawe, Abertawe (+ MC Saizmundo, Yr Angen)
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

