Ydych chi yn breuddwydio am gael y cyfle i wneud argraff ar lwyfannau y tu allan i Gymru? Mae gwyl SXSW (South by South West) sy'n cael ei chynnal yn Texas, UDA, a gwyl 'In The City' Manceinion yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd gan fandiau sydd yn awyddus i berfformio ynddyn nhw.
SXSW, Texas - gwyl 2010
Mae SXSW (South by South West) yn barod i dderbyn ceisiadau gan fandiau sydd am berfformio yn yr wyl yn 2010, fydd yn cael ei gynnal rhwng 17-21 Mawrth.
Mae manylion cofrestru i fynychu ar wefan yr wyl. Os hoffech berfformio, ewch i wefan SxSW. Gallwch gael hyd i'r ffurflen ymgeisio gyda gwybodaeth ac awgrymiadau am y broses yma ar wefan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar 6 Tachwedd, felly wech ati i wneud cais!
In The City, Manceinion - Hydref 2009
Cynhelir gwyl 'In The City' eleni ar 18, 19 a 20 Hydref 2009 yng ngwesty'r Midland ac mewn lleoliadau a bariau amrwyiol ym Manceinion.
Mae John Rostron yn aelod o'r panel dewis swyddogol ac mae'n chwilio am awgrymiadau am fandiau Cymreig y gall eu cyflwyno i'r panel. Anfonwch e-bost at john@plugtwo.com gyda eich dolenni myspace i'w hystyried neu syrffiwch draw i'r wefan www.inthecity.co.uk.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

