Mae penwythnos Gwyl Swn 2008 wedi cyrraedd, ac mae diweddariad munud-olaf cyfforus iawn wedi ei ychwanegu i'r penwythnos.
Ar yr unfed awr ar-ddeg, mae trefnywr yr wyl wedi cadarnhau fod band Rhys Ifans - The Peth - yn mynd i fod yn perfformio yn yr wyl. Byddant i'w gweld yn Tommy's Bar ar nos Sadwrn am 10pm.
Nid newyddion da mo'r datblygiadau i gyd fodd bynnag, ac yn anffodus mae'r Pipettes wedi tynnu-allan o'u gig yn y Point ar y nos Sadwrn, a bydd yr Ods (oedd i fod i'w cefnogi) bellach yn chwarae yn Kaz Bar nos Sadwrn am 6.30pm.
I weld manylion o pwy sy'n chwarae pryd a lle dros y penwythnos cliciwch yma
Am fwy o wybodaeth ac i ymuno â rhestr ebost Sŵn ewch draw i wefan yr wŷl, www.swnfest.com ac wrth gwrs gewch chi glywed manylion holl gyffro'r penwythnos, yn ogystal a sgyrsiau gyda rhai o'r bandiau a chaneuon byw gan Derwyddon Dr Gonzo, y Stilletoes, a Joy Formidable ar C2, Radio Cymru wythnos nesaf.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

