Advertisement

Gwyl Sŵn 2008

Huw Stephens

Yn dilyn llwyddiant Gwyl Swn 2007 - gwyl sy'n cael ei threfnu gan Huw Stephens - mae manylion Swn 2008 newydd gael ei ryddhau.

Bydd yr wyl yn cael ei chynnal mewn lleoliadau led-led Caerdydd ar y penwythnos Tachwedd 14-16, Caerdydd - gyda'r syniad am yr wyl yn dod o wyliau tebyg i SXSW (South By South-West) yn Texas.

Ymysg y bandiau a fydd yn perfformio eleni mae Euros Childs, The Pipettes, Radio Luxembourg, Sweet Baboo, The Threatmantics, James Yuill, Martin Carr, Dananananakroyd, Goldie Lookin Chain, Future Of The Left, Truckers Of Husk, Joy Formidable, Rod Thomas, Gwyneth Glyn, Huw MM, The Afternoons, Eilir Pierce, Llwyd, Danblagroyd, Picture Books In Winter, Random Elbow Pain, Pagan Wanderer Lu, Wrightoid, Georgia Ruth Williams, Alex Dingley, Little My, Seindorff, The School, Attack + Defend, Nia Morgan, Acid Casuals, Yr Ods, y Stilletoes... a llawer, llawer mwy!

Yn ogystal a'r holl fandiau cyffrous yma, yng Ngwyl Swn eleni y bydd un o hoff fandiau Cymru yn chwarae eu gig olaf. Yn fuan wedi rhyddhau eu albym cyntaf, cyhoeddodd y Genod Droog eu bod am chwalu, a bydd eu perffomiad olaf eriod yn yr wyl eleni. Gallwch ddarllen am y Genod Droog yn chwalu trwy glicio yma

Bydd hefyd gweithdai 'Sleeveface' ac arddangosfeydd ar draws gwahanol leoliadau, yn ogystal a phartion mawr i ddathlu penblwydd Clwb Ifor Bach yn 25! Mae'r tocynnau bellach ar werth, ac mae disgwyl iddynt werthu yn gyflym felly archebwch eich un chi rwan o: www.sebon.co.uk

Am fwy o wybodaeth ac i ymuno â rhestr ebost Sŵn ewch draw i wefan yr wŷl, www.swnfest.com ac wrth gwrs gewch chi glywed y newyddion diweddara' am yr ŵyl ar C2, Radio Cymru.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.