Ar raglen Geraint Jarman ar C2 nos Fercher, fe gyhoeddodd Osian a Meilir o'r Sibrydion mai enw albym newydd y grŵp yw Simsalabim a'i bod yn cael ei rhyddhau ar Orffennaf 30ain ar label newydd Copa.
Mae hi wedi cymryd blwyddyn gyfan i'r band recordio a chymysgu'r albym, sy'n dilyn eu halbym cyntaf gwych JigCal, ac fe ddarlledwyd caneuon o Simsalabim am y tro cyntaf erioed ar raglen Geraint Jarman nos Fercher. Peidiwch a phoeni os 'naethoch chi golli'r rhaglen....
Cliciwch i wrando eto ar raglen Geraint Jarman
Ar y rhaglen fe siaradodd Osian a Meilir am sut daeth eu grŵp poblogaidd Big Leaves i ben a sut daeth Sibrydion at ei gilydd ar gyfer Steddfod Casnewydd yn 2004.
Wrth sôn am enw'r CD newydd, 'Simsalabim', dywedodd Meilir, "mae o'n air ryda ni wedi bod yn iwsio dros y blynyddoedd, just gair gwirion sydd ddim yn meddwl llawer o ddim byd - oedden ni ddim yn siwr os mai brawd Alibaba oedd o!"
Mae'r albym yn cynnwys 11 cân newydd, gan gynnwys y glasur Madame Guillotine, gafodd ei recordio gyntaf fel sesiwn i C2.
Cysylltiadau'r we:
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.