Mae'r Super Furry Animals yn enwog am wneud pethau annisgwyl, fel cyrraedd maes y Steddfod Genedlaethol mewn tanc glas, felly bydd neb yn synnu o glywed bod y band yn chwarae yn ngwyl jazz mwya' Cymru eleni! Mae rheolaeth y Furries wedi cadarnhau bydd y band yn chwarae eu hunig gig yng Nghymru haf yma yng ngwyl Jazz Aberhonddu/Brecon Jazz.
Mae'r wyl yn dechrau'n swyddogol ar Awst 13, ond bydd y band yn chwarae ar nos Iau, Awst 12, i gynhesu'r miloedd o ffans fydd yn mynd i ganolbarth Cymru i weld rhai o enwau mwyaf y byd jazz. Bydd y gig yn cael ei gynnal mewn pabell fawr sy'n dal 1,000 o bobl ac mae'r trefnwyr yn gobeithio denu cynulleidfa newydd i'r wyl drwy berfformiad yr anifeiliaid blewog.
Mae tocynnau i gig y Super Furries ar werth yn awr o swyddfa docynnau Theatr Brycheiniog ar 01874 611622. Rhai eraill o brif artistiaid yr wyl eleni fydd Amy Winehouse, Kenny Davern All-Stars, George Melly a Tommy Smith - i gael y manylion llawn, cliciwch ar y wefan breconjazz.co.uk.
Ar ôl perfformio yn Jazz Aberhonddu bydd y Furries yn mynd ymlaen i berfformio yn yr Eden Project yng Nghernyw ar Awst 13 a Gwyl y Summer Sundae yng Nghaelyr/Leicester ar Awst 14. Mae'r band yn Sbaen ar hyn o bryd yn recordio'u halbym newydd - felly gwyliwch y gofod! Cliciwch yma am fwy o newyddion y Super Furry Animals.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.