Taith newydd y SFA

Super Furry Animals

Gwrandewch ar Dafydd Du yn cyfweld Huw Bunford

Mae'n fis Ionawr. Ma'r goeden Nadolig 'di thynnu, yr addurniadau 'di diffodd a'r unig siocledi ar ôl yn y bocs yw'r orange creams. Ma'r blues mis Ionawr arnon ni gyd - ond i godi'n calonne ni gyd ar ddechra'u'r flwyddyn, ma'r Super Furry Animals 'di cyhoeddi taith newydd fydd yn ymweld â'r Iwerddon, Yr Alban, Lloegr - a Chymru, yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill eleni.

Bydd y daith yn dechre yn y Royal Court, Lerpwl ar nos Sadwrn, Mawrth 27 ac yn gorffen yn yr Apollo Hammersmith, Llundain ar nos Iau, Ebrill yr 8fed. Ac mi fydd Gruff, Bunf, Daf, Cian ac Iwan yn dychwelyd i Gymru ar nos Wener, Ebrill 2il i rocio'r CIA yng Nghaerdydd. Cliciwch ar safle Gigwyddiadur C2 am y manlynion llawn

Yn y cyfamser bydd y band yn gigio mewn nifer o ddinasoedd Ewrop yn ystod mis Ionawr, gan gynnwys Madrid, Barcelona, Paris ac Amsterdam cyn troi tuag at America lle bydd y bechgyn yn 'neud 22 gig mewn 27 diwrnod.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.