Advertisement

Ffilmiau'r Furries

Super Furry Animals

Mae ffilmiau byr o Super Furry Animals yn recordio eu halbym newydd i'w gweld ar wefan y band.

Eleni bydd SFA yn rhyddhau eu nawfed albym stiwdio ac mae 'na gamerau wedi bod yn ffilmio'r band yn recordio yn y stiwdio. Bydd 21 fideo yn y gyfres, ac ers ddechrau'r wythnos mae'r ffilm gyntaf bellach i'w gweld ar wefan superfurry.com.

Yn ôl y datganiad gan y band, "gallwch ddisgwyl chwalfa o ddelweddau a sylwebaethau rhyfeddol, blasus ac annisgwyl; llonydd ac egniol; argraffiadol a phenodol."

Bydd yr albym ar gael i'w lawrlwytho o wefan y band ar Fawrth 16eg, ac ar gael yn y siopau ar Ebrill 13eg. Does dim enw arni eto ond cliciwch yma am fwy o fanylion yr albym newydd.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.