Advertisement

Sesiwn Fawr Dolgellau 2008

Gwibdaith Hen Fran

Pnawn dydd Sul mewn rhaglen arbennig gan Lisa Gwilym o Ganolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau, fe gyhoeddwyd pwy fydd yn chwarae ar brif lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau eleni!

Mae Sesiwn Fawr Dolgellau bellach yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y sîn roc, ac eleni, fel arfer, mae yna gymysgedd o'r enwog a'r newydd, cerddoriaeth draddodiadol ac arbrofol, enwau cyfarwydd a sêr y dyfodol.

Ar y nos Wener, fe fydd y Sibrydion yn siŵr o godi'r hwylia, gyda Huw Chiswell yn cloi'r noson efo môr o anthemau. Ar y pnawn Sadwrn - rhywbeth gwirioneddol arbennig; Endaf Emlyn yn perfformio caneuon yr albwm 'Salem' yn fyw am y tro cyntaf ERIOED - a'i berfformiad byw cyntaf ers degawdau.

Ac yna, i gloi'r noson yn llawn hwyl - anthemau roc Cymraeg Celt, a Craic o'r Iwerddon gyda'r Saw Doctors.

Bydd y Sesiwn Fawr yn digwydd ar Orffennaf 18 ac 19, ac fe allwch brynu tocynnau o www.sesiwnfawr.co.uk ar ôl penwythnos y Pasg.

Nos Wener

Point At The Sun
Man
Justin Adam & Juldeh Camara
Bedouin Jerry Can Band
Sibrydion
Natacha Atlas
Bryn Fôn a'r Band
Huw Chiswell

Dydd / Nos Sadwrn

Buena Risca Social Club
Lowri Evans
Glerddorfa
Steve Eaves
Coal Porters
Grupo Fantasma
Cowbois Rhos Botwnnog
N'faly Kouyate & Dunyakan
Endaf Emlyn
Gwibdaith Hen Fran
Derwyddon Dr Gonzo
Celt
Saw Doctors

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.