Advertisement

Dim Sesiwn yn Nolgellau

Sesiwn Fawr Dolgellau

Un gŵyl yn llai yng Nghymru, ar ôl i ni glywed y cyhoeddiad na fydd Sesiwn Fawr eleni.

Dros y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf, mae Sesiwn Fawr wedi rhoi llwyfan i nifer o fandiau Cymru, gan gynnwys y Super Furry Animals, Frizbee, Cerys Matthews, Genod Droog, GLC a Derwyddon Dr Gonzo i enwi ond rhai, yn ogystal a gwahodd nifer o fandiau rhyngwladol i berfformio yn Nolgellau.

Trist iawn oedd clywed, na fydd Sesiwn Fawr eleni.

Fel nifer o ddigwyddiadau cerddorol, problemau ariannol sy'n bennaf gyfrifol. Yn ôl trefnwyr Sesiwn Fawr, roedd gan yr Ŵyl ddyled o dros £50.000.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr yr Ŵyl Ywain Myfyr, nad oedd ganddynt ddewis:

"Y sefyllfa ydi fod ganddom ni ddyled - mae ganddom ni gredydwyr - a'r teimlad felly ydi y gallai cynnal gŵyl yn 2009 gael ei weld fel masnachu anghyfreithlon."

Mae' trefnwyr yn awyddus iawn i sicrhau y bydd digwyddiad cerddorol yn digwydd yn haf 2010 yn Nolgellau, ac wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus yn Nhŷ Siamas am 7.30pm nos Fawrth 10fed o Fawrth , er mwyn lawnsio cronfa i godi arian i'r Sesiwn Fawr.
Meddai Ywain Myfyr:

"Ry'n ni'n gobeithio y byddwn ni'n ôl yn 2010 hefo Sesiwn Fawr, ond yn sicr mi fydd yn wahanol."

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.