Wel wir! Wel Wiwar! Mae hi'n amser cyffrous iawn iawn - mae albym cynta' Derwyddon Dr Gonzo - Stonk! bron yn barod, ac yn cael ei ryddhau ar label Copa ar Orffennaf 27ain.
Nos Fawrth, Mehefin 9fed daeth Dewi a Llion o'r band i fewn i'r stiwdio i sgwrsio gyda Magi Dodd, ac i gyflwyno'r sengl nesa, a'r gan gynta' oddi ar Stonk! sef 'Dangos Dy Wiwar' sydd ar gael i'w lawrlwytho o Fehefin 29ain.
Wedi iddynt ennill nifer o wobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru eleni gan gynnwys Band Byw Gorau Cymru, mae Derwyddon Dr Gonzo yn teimlo fod yna achos am barti - a hynny mewn ffurf albwm. Mae Stonk! yn wallgof ac yn ffynci gan gynnig 13 o draciau, bob un ohonynt yn berl sy'n sefyll ar ei phen ei hun.
Mae nifer o themau yn llifo drwy'r albwm sy'n creu ymdeimlad cynhyrfus a boncyrs. Mae KO a Madrach, a glywyd ar sengl a rhyddhawyd eisoes, yn cynnig ymdeimlad 'upbeat' iawn ac mewn gwrthgyferbyniad mae Bwthyn yn cynnig cymysgedd o ddisgo rhywiol rhyfedd a llais tyner Gwyneth Glyn fel gwestai ar y gân.
Mae Raptil a What Goes Around yn ffefrynnau i'r band, dywedodd Ifan, prif leisydd y grŵp, "Mae'r rhain yn dipyn mwy ffynci a thywyll i'w gymharu efo'r senglau diwethaf. Mae criw o Goleg Llundain yn westeion ar What Goes Around ac yn rhoi digon o hwyl a gwallgofrwydd mewn i'r gan."
Ynghyd a'r gwesteion uchod mae nifer, eraill yn ymddangos ar yr albwm gan gynnwys Nobsta Nuts o'r Headcase Ladz ar No Pants Dance, Miriam Isaac ar Shampŵ a'r bitbocsiwr a'r rapiwr Ed Holden ar KO.
Dywedodd Cai Dyfan, drymiwr y band, "Mae cydweithio efo pobl mor dalentog â Gwyneth Glyn ac Ed Holder (Mr.Phormula) ymysg eraill wedi bod yn fraint, mae'n rhoi dimensiwn arall i'r gerddoriaeth, ac mae'n sypreis bach neis i bwy bynnag sy'n gwrando ar y trac!"
Rhestr caneuon
1) Dangos dy Wiwar
2) K.O.
3) Llacia dy Drons
4) No Pants Danc
5) Chaviach
6) Raptil
7) Don't Stop
8) Salsa Talsarna
9) Bwthyn
10) Tomi yn y Goedwig
11) Shampŵ
12) What Goes Around
13) Madrach
Cliciwch yma i wrando ar ran gyntaf sgwrs Dewi, Llion a Magi.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

