Dim SFA yn Pesda Roc eleni
Y newyddion da i ffans cerddoriaeth yn y gogledd ydy bydd gwyl Pesda Roc 2004 yn cael ei chynnal eto eleni. Y newyddion drwg ydy bydd hi'n wyl llawer llai na llynedd a bydd dim ymddangosiad gan y Super Furry Animals.
Ar ôl llwyddiant yr wyl llynedd pan aeth miloedd o bobl i'r cae rygbi ym Methesda i weld bandiau fel Super Furry Animals, Cerys Matthews a Zabrinski yn y marquee enfawr, mi roedd lot yn gobeithio byddai'r un peth yn gallu digwydd eleni. Ond gwyl llawer llai fydd hi yn 2004 fydd yn cael ei chynnal ar Fehefin 18-20 yn adeilad y Clwb Rygbi.
Mae'r wyl yn cael ei drefnu gan cwmni Pesda Roc - sef "Cwmni cymunedol sydd ar fin agor Gwe Gaffi a Chanolfan Hyfforddi ym Methesda" gyda'r bwriad o drefnu gweithdai cerddoriaeth a gigs yn yr ardal, fel gig Bob Delyn a'r Ebillion yn y Clwb Rygbi ar nos Wener, Mai 28. Mae'r trefnwyr dal yn gobeithio gallu trefnu gwyl Pesda Roc fawr (fel llynedd) yn y dyfodol rhywbryd - dewch nôl am fwy o fanylion.
Ond os yda chi'n ffans o'r Furries, cofiwch bod yr albym remics Phantom Phorce yn cael ei ryddhau Dydd Llun nesaf, Ebrill 19, a bod hi'n bosib erbyn hyn i lawr-lwytho'r EP Slow Life o wefan placidcasual.com. Mae'r SFA hefyd wedi cadarnhau y bydda nhw'n perfformio yn y gwyliau yma y ystod yr hâf :
Nos Wener, Mehefin 11
Gwyl Ynys Wyth/ Isle of Wight
Penwythnos Gorffennaf 31 - Awst 1
Gwyl Fuji Rock, Niigata Prefecture, Siapan
Nos Sadwrn, Awst 14:
Summer Sundae Weekender, Caerlyr/ Leicester
Nos Sul, Awst 29
Theatr Tramway, Gwyl Triptych, Glasgow
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.