Advertisement

Amserlen C2

Cyflwynwyr C2

Mae wythnos C2 yn llawn dop gyda rhaglenni arbennig Magi, Huw, Lisa, Hefin, Nia a Daniel.

O 8pm i 1am, nos Lun i nos Wener, mae sŵn Radio Cymru yn cael ei blygu a'i fanglo gan griw C2 wrth i bopeth newid am 5 awr bob nos!

Nos Lun & Nos Fawrth:

8-10pm: Magi Dodd

10-11pm: Huw Stephens

11pm-1am: Hefin Thomas

Nos Fercher:

8-10pm: Magi Dodd a Glyn Wise

10-11pm: Rhaglenni Amrywiol

11pm-1am: Daniel Glyn

Nos Iau & Nos Wener:

8-10pm: Magi Dodd

10-11pm: Lisa Gwilym

11pm-1am: Nia Medi

Magi Dodd o Bontypridd sydd wrth y meic rhwng 8-10pm gyda Glyn Wise, ei phartner cyflwyno, yn ymuno â hi pob nos Fercher.

Cerddoriaeth gwahanol a sesiynau newydd sydd yn rhaglenni Huw Stephens a Lisa Gwilym, ac ma' nhw'n cyflwyno rhwng 10-11pm.

Mae slot nos Fercher rhwng 10-11pm yn gyfle i glywed rhywbeth hollol wahanol - yn barod rydym wedi clywed cyfresi Owen Powell, Geraint Jarman, Rhys Mwyn, Yr Ystafell Werdd ac C2 yn y Ciwb gyda Ryland Teifi.

Mae cyfle i wrandawyr glywed adolygiadau, cerddoriaeth dda, rhwng 11pm-1am, gyda Hefin Thomas, Daniel Glyn, a Nia Medi.

Gwrando

Gwrando'n fyw

Ymlaen nawr: C2: Hefin Thomas (23:02-01:00)

Dwy awr ola darlledu'r dydd yng nghwmni Hefin Thomas.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.