Advertisement

Mim Twm Llai

Mim Twm Llai

Mae label Rasal wedi rhyddhau casgliad 'Goreuon Mim Twm Llai'

Mae label Rasal wedi rhyddhau 'Goreuon Mim Twm Llai'. Mae'r rhyddhad hwn yn cofnodi gwaith Gai Toms a recordiwyd ar label Crai fel 'Mim Twm Llai' rhwng 2002 a 2006, am mae'n cynnwys traciau o albwms 'O'r Sbensh', 'Straeon y Cymdogion', a 'Yr Eira Mawr'. Roedd y tri albwm yn adlewyrchu cyfnodau gwahanol o fywyd Gai, ac mae'r casgliad yma o 19 trac yn arddangos dawn Gai i adrodd storiau lliwgar am gymeriadau o'i filltir sgwar.

Ffaith diddorol... Daeth yr enw 'Mim Twm Llai' o ddychymyg cymydog Gai, sef Kevin Evans neu Prinsi. Enw tad Gai oedd Meurig Thomas, a'i lys enw oedd Mim Twm. Roedd chwaer fawr Gai yn cael ei galw'n Mim Twm Bach, felly roedd Gai yn amlwg yn Mim Twm Llai!

Am fwy o wybodaeth ewch i www.rasal.net

Mae Gai Toms ar daith yn y flwyddyn newydd - cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Gwrando

Gwrando'n fyw

Ymlaen nawr: C2: Hefin Thomas (23:02-01:00)

Dwy awr ola darlledu'r dydd yng nghwmni Hefin Thomas.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.