Dair blynedd wedi iddynt ryddhau eu albym gyntaf 'Edrych Yn Well O Bell' mae Mattoidz nol gyda albym newydd, 'Llygaid Cau a Dilyn Trefn'.
Bydd yr albym newydd yn cael ei ryddhau ar 13eg o Hydref 2008 ar My Imaginary Label. Mae'r albym - a gynhyrchwyd gan Tim Hamill a Rhys 'Y Barf' James a recordiwyd yn stwidios Sonic One, Llangennech a RhySwnllyd, Llanpumpsaint - yn cynnwys deuddeg o draciau newydd gan gynnwys y sengl Z-List.
Bydd yr albym ar gael o siopau cerddoriaeth ac o siopau arlein Sebon, PopethynGymraeg a Dockrad. Bydd hefyd ar gael i'w lawrlwytho o Itunes, Napster, Tunetribe a nifer o siopau arlein eraill.
Ymysg y CDs newydd eraill sydd ar y ffordd yn fuan mae albym Euros Childs - Cheer Gone, sydd allan ar Medi 27ain. Bydd Euros yn westai ar raglen Huw Stephens nos Lun, Medi 22ain, yn sgwrsio am yr albym a bydd cyfle i glywed traciau oddi arni, yn ogystal a rhai o'i ddewisiadau cerddorol.
Hefyd ar y ffordd albyms Cyrion ac Ynyr Llwyd (y ddwy albym yn cael eu rhyddhau ar Hydref 6ed) - gallwch weld manylion yr holl CDs newydd trwy glicio yma.
Gwrando
Gwrando'n fyw
Ymlaen nawr: Lisa Gwilym (14:28-16:20)
Lisa Gwilym sy'n dewis pob math o gerddoriaeth hamddenol braf ar gyfer ymlacio.
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

