Mae'r tywydd oer a'r cymylau tywyll wedi diflannu wythnos yma, ac mae'n dechrau teimlo fel yr haf... hwre!
Er na fydd Sesiwn Fawr Dolgellau na Gŵyl Car Gwyllt yn cael eu cynnal eleni, mae 'na haul ar fryn i ffans cerddoriaeth yng Nghymru. Ie, sychwch eich dagrau a chymrwch olwg ar wyliau cyffrous eraill sydd yn cael eu cynnal eleni a sydd newydd gyhoeddi eu manylion...
Gwyl Fai Antur Waunfawr
Lle: Antur Waunfawr ger Caernarfon
Pryd: Mai 2
Prif fandiau: Sibrydion, Gai Toms, Drymbago, Gwibdaith Hen Fran, Meinir Gwilym a mwy
Mwy o fanylion: www.anturwaunfawr.org
Castell Rock
Lle: Castell, Aberystwyth
Pryd: Mai 30
Prif fandiau: I'w cadarnhau
Mwy o fanylion: www.castellrock.co.uk
Gwyl Maldwyn/Gwyl Cann Offis
Lle: Gwesty'r Cann Offis, Llangadfan
Pryd: Mehefin 5-7
Prif fandiau: Gwibdaith Hen Fran, Wyrligigs, Geraint Lovgreen, Bryn Fôn, Aveldro (Llydaw)
Mwy o fanylion: Cann Offis 01938 820202
Bedroc
Lle: Beddllwynog, Merthyr Tudful
Pryd: Mehefin 19-20
Prif fandiau: Tebot Piws, Meic Stevens, Huw Chiswell, Eitha Tal Ffranco, Yucatan, Plant Duw, Al Lewis Band, Jess, Gwibdaith Hen Fran, Y Diwygiad, Brigyn
Mwy o fanylion: www.cymdeithasgymraegbeddllwynog.co.uk
Gwyl Nôl a Mla'n
Lle: Y Llong a'r Pentre Arms, Llangrannog
Pryd: Mehefin 20
Prif fandiau: Meic Stevens, Fflur Dafydd a'r Barf, Cerrig Melys, Lowri Evans, Radwm, Karak, Fat Spanners a mwy
Penwythnos mawr Pontypridd
Lle: Parc Ynys Angharad, Pontypridd
Pryd: Gorffennaf 18-19
Prif fandiau: Sugababes!
Mwy o fanylion: www.pontysbigweekend.co.uk
Maes B, Eisteddfod Genedlaethol y Bala
Lle: Maes B, Bala
Pryd: Awst 1-8
Prif fandiau: Derwyddon Dr Gonzo, Racehorses, Sibrydion, Dafydd Iwan, Bryn Fon a'r Band, Cowbois Rhos Botwnnog, Cate Le Bon, Yr Ods, Gwibdaith hen Fran, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Y Diwygiad, Plant Duw
Mwy o fanylion: Manylion Maes B ar wefan C2
Gŵyl Gopr Amlwch
Lle: Y Parc, Porth Amlwch, Ynys Môn
Pryd: Awst 28-30
Prif fandiau: Bryn Fôn a'r Band, Midge Ure, Race Horses, Meic Stevens, Steve Eaves, Celt, Y Wyrligigs
Mwy o fanylion: www.gwylgopr.co.uk
Wâ Bala
Lle: Ar y Grîn, Bala
Pryd: Medi 15-17
Prif fandiau: ...i'w cadarnhau
Mwy o fanylion: ...i ddilyn
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefannau allanol y cysylltir iddynt.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

