Meinir, Rhys a'r Super Furries

Super Furry Animals

Dathlu Gwyl Gwrtheyrn
Rhys Ifans fydd yn agor Canolfan Dreftadaeth Nant Gwrtheyrn yn swyddogol ar ddydd Llun 5ed o Fai. Bydd yr agoriad yn gychwyn ar wythnos o weithgareddau i ddathlu, Gwyl Gwrtheyrn. Ar ôl i Rhys dorri'r rhuban, fe fydd Y Super Furry Animals yn chware gig ecsgliwsif i gynulleidfa o 70 o bobol. Ma pob tocyn eisoes wedi ei werthu OND (nethoch chi weld hwn yn dod on' do?) mae gan C2 ac Owain a Dylan bâr o docynne yr un i'w rhoi fel gwobre. Os ydych chi am fod yn un o'r 70 dethol a bod yn ddigon lwcus i weld Gruff Rhys yn y flesh arhoswch gyda C2.

A sôn am haelioni criw C2 ydyn, rydyn ni'n anhygoel o neis, ma copie o albym ddiweddara' ac ola'- Big Leaves, Alien and Familiar, 'da ni i roi fel gwobre.Dyw'r gryno ddisg ddim yn cael ei rhyddhau'n swyddogol tan Mai 5ed, ond arhoswch gyda C2 i gael cyfle i ennill copi.

Maes B - heb y barnu, na'r cystadlu
Ma trefnwyr Maes B 'di dweud wrth C2 mai Pep le Pew, Geraint Jarman a Maharishi fydd yn perfformio ar nos Sadwrn ola'r Steddfod.
Ma nhw hefyd 'di cadarnhau y bydd yna ddwy babell ar Faes B eleni.
Does na ddim cadarnhad hyd yma ynglyn â pha fandiau eraill fydd perfformio yn ystod yr wythnos, ond newn ni ddod â'r diweddara' i chi wrth i ni gael gwbod.

Seren newydd yn y ffurfafen bop
Seren Seibar yw enw seren pop mwyaf newydd a mwyaf gwahanol Cymru. Mae'r gantores ifanc eisoes wedi rhyddhau ei chryno ddisg gynta', sy'n cynnwys 4 trac electro-ddawns. Ma gan Seren safle gwe ei hun, sy yn ei geiriau hi yn "top". Ewch i www.bbc.co.uk/seren i bori drwy ei dyddiadur, darllen geiriau ei chaneuon ac i rhoi cynnig ar ei chwis "How cwl ti yn?"

Yogfest
Lico'ch roc yn galed, a'ch roll yn galetach fyth?
Os felly, ryn ni'n awgrymu eich bo chi'n cadw dydd Sadwrn 17eg o Fai yn rhydd, gan mai dyma fydd dyddiad Yogfest. Complete Control Music sy'n cynnal yr wyl yn Neuadd y Frenhines, Narberth. Ymhlith y perfformwyr fydd Stampin' Ground, Serpentine, Johnny Mental, Chaos Weeps a S.Club Juniors (jôc odd yr S.Club Juniors gyda llaw!). Bydd tocynnau ar werth wrth y drws neu os ydych am fanylion pellach ewch i www.completecontrolmusic.com

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.