Advertisement

Gwyl Newydd 'Y Ffin'

Sibrydion

Ar faes chwarae'r Rec, yr Wyddgrug bydd gŵyl gerddoriaeth roc a phop newydd sbon, Y Ffin, yn cael ei lansio ar benwythnos 25 a'r 26 o Orffennaf, gan Fenter Iaith Sir y Fflint ac Urdd Gobaith Cymru.

Ar lwyfannau awyr agored, bydd perfformiadau byw AM DDIM i'w gweld a'i chlywed yn y Rec, Maes Bodlonfa, Yr Wyddgrug ar ddydd Sadwrn, 25 Gorffennaf.

Yn perfformio yn yn wyl bydd rhai o enwau mawr y sîn gerddoriaeth yng Nghymru - Sibrydion, Racehorses (Radio Luxembourg-gynt) a Derwyddon Dr Gonzo - fydd yn rhyddhau eu halbwm gyntaf, Stonk!, yn fuan wedi'r wyl.

Hefyd yn ymddangos fydd y Promatics, Meilir, Mechanical Owl, The Roseville Band a Drip Dry Man, a bydd dau fand ifanc, lleol - Monte Cassino, a The Lupin Thieves - hefyd yn perfformio yn ystod y prynhawn. A fel pe na fyddai hyn yn ddigon, bydd Ed Holden aka Mr Phormula yn perfformio a chynnal gweithdai bît bocsio.

Os ydych awydd rhywbeth ychydig yn wahanol i'r hyn fydd ar y prif lwyfan, bydd gweithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal mewn tipi amgylcheddol, gyda artistiaid fel Nia Morgan, a John Lawrence, yn perfformio yno.

Mae'r wyl yn argoeli i fod yn rhywbeth i'r teulu, gyda Gwawr Cordiner, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Iaith Sir y Fflint yn dweud: "Bydd pob math o weithgareddau ar y safle, gan gynnwys pentref arbennig ar gyfer pobl ifanc, yn ogystal â gweithgareddau i fabanod a phlant ifanc."

Yn ôl Gwawr Cordiner: "Rydym yn gobeithio denu tyrfa fawr i'r ŵyl gymunedol hon, gan sicrhau y bydd yr Wyddgrug yn lleoliad gwych ar gyfer hyrwyddo cerddoriaeth roc a phop Cymraeg ac eingl-Gymreig."

Am ragor o wybodaeth am yr wyl, ewch draw i adran Gwyliau'r Haf ar wefan C2, neu i wefan yr wyl - www.yffin.co.uk.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.