Am y tro cyntaf erioed eleni bydd y Gwobrau Roc a Phop (RAP) yn cael eu cyflwyno mewn rhaglen arbennig gan Magi Dodd a Hefin Thomas yn fyw ar BBC Radio Cymru.
Gan nad oedd gwobrau y llynedd, bydd rhaglen eleni yn cydnabod cyfraniad bandiau ac artistiaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr y categorïau a ddewiswyd gan banel o dros 30 o unigolion a chwmnïau sy'n ymwneud â'r byd canu cyfoes yng Nghymru, bydd sesiynau arbennig wedi eu recordio ar gyfer y rhaglen. Tra bydd Magi a Hefin wrth y llyw ar y radio bydd Huw Evans a Dyl Mei mewn stiwdio arwahan yn cyfrannu ambell bwt i'r rhaglen ac yn ffrydio eu sylwadau'n fyw ar wefan Radio Cymru.
Bydd sesiwn gan Heather Jones, enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau RAP 2009. Ers ei dyddiau hefo'r Bara Menyn, mae Heather wedi bod yn un o leisiau mwyaf adnabyddus ac unigryw'r sin, ac mewn cyfweliad arbennig hefo Lisa Gwilym, bu'n rhannu rhai o'i hatgofion, ac yn rhoi ei ymateb i dderbyn y wobr. Cliciwch ar y botwm Chwarae uchod i weld y sgwrs.
Categorïau
Byddwn yn datgelu'r rhestrau fer ar raglenni Eleri a Daf, Jonsi, ac ar C2 yn ystod yr wythnos.
Y Gân Orau
- Derwyddon Dr Gonzo - Bwthyn
- Texas Radio Band - Swynol
- Brigyn - Haleliwia
- Derwyddon Dr Gonzo - Chaviach
Band byw
- Derwyddon Dr Gonzo
- Y Rei
- Gwibdaith Hen Fran
- Frizbee
Y Cynhyrchydd Gorau
- Dylan Meirion Roberts
- Richard Roberts
- David Wrench
- Gai Toms
Artist gwrywaidd
- Mr Huw
- Euros Childs
- Gai Toms
- Gareth Bonello
Artist Benywaidd
- Cate Le Bon
- Elin Fflur
- Gwyneth Glyn
- Swci Boscawen
Y Digwyddiad Byw Gorau
- Sesiwn Fawr Dolgellau
- Gwyl Gardd Goll
- Maes B
- Gigs Cymdeithas yr Iaith
Yr Albym Orau
- MC Mabon
- Euros Childs
- Mattoidz
- Sibrydion
Y Cyfansoddwr gorau
- Gareth Bonello
- Euros Childs
- Steve Eaves
- Gai Toms
Y grwp neu artist ddaeth i amlygrwydd
- Yr Ods
- Eitha Tal Ffranco
- 9 Bach
- Plant Duw
Sesiwn C2
- Texas Radio Band
- Georgia Ruth Williams
- Creision Hud
- Zimmermans
Band Gorau
- Sibrydion
- Eitha Tal Ffranco
- Radio Luxembourg
- Derwyddon Dr Gonzo -
Mae'r panel yn cynnwys unigolion o'r mudiadau a sefydliadau canlynol: Recordiau Aran, Ciwdod, Fflach, Rasp, Peski, Sain, Recordiau Menai, Recordiau Safon Uchel, Sbrigyn Ymborth, Slacyr, Barn, Y Cymro, Golwg, Selar, Tu Chwith, Y Ffatri Bop, Boomerang, Antena, Cwmni Da, Tinopolis, Cymdeithas Yr Iaith, Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc, Maes-b, Maes-e, Mentrau Iaith Cymru, Yr Urdd, Archif Sgrin a Sain Aberystwyth, Archif Sgrin a Sain Bangor, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aber, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Abertawe, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Llanbed, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerfyrddin, Cytgord, Labelabel, a Dockrad.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

