Ar ddiwedd Ionawr 2005, bydd Gruff Rhys o'r Super Furry Animals yn rhyddhau albym fel artist unigol ac ar nos Lun Rhagfyr 13eg, fe nath Huw Stephens chware dau drac ohono ar ei raglen ar C2 ar Radio Cymru. Dyma oedd y rhaglen gyntaf yn y byd i chwarae'r caneuon yma.
Enw'r albym yw 'Yr Atal Genhedlaeth' a'r sengl cynta oddi arni fydd sengl 7 modfedd dwy ochr B (double B side). Y ddwy gân ar y sengl fydd Ni yw y Byd a Gwn mi Wn a dyma'r caneuon gafodd eu darlledu gynta' ar raglen Huw Stephens am 10pm, nos Lun.
Ma'r sengl yn cael ei ryddhau ar Ionawr 17 gyda'r albym ar Ionawr 24 - y ddau ar label Placid Casual. Gafodd yr albym, sy'n cynnwys 11 trac newydd, ei recordio gan Gorwel Owen yn Stwdios Ofn yn ystod yr haf eleni. Bydd Gruff hefyd yn mynd ar daith yn y flwyddyn newydd i hyrwyddo 'Yr Atal Genhedlaeth'.
Felly os y'ch chi am glywed caneuon newydd Gruff Rhys g'newch yn siwr eich bod yn gwrando ar Huw Stephens ar C2, Radio Cymru, o nos Lun i nos Fercher rhwng 10pm ac 11pm.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.