Heno ar raglen Lisa Gwilym, fe gyhoeddwyd pwy fydd yn chwarae yn Gig Mawr Bont 2008 sy'n digwydd Mehefin 27 a 28.
Roedd yr ŵyl yn llwyddiant mawr y llynedd ac yn 2006, ac eleni fe fydd y gig yn uchafbwynt dathlu agor y pafiliwn yn swyddogol. (Peidiwch â gofyn pam mai eleni mae'r agoriad swyddogol...!).
Am fwy o wybodaeth a manylion tocynnau, cymer olwg ar wefan Pafiliwn Bont.
Nos Wener, Mehefin 27
Sibrydion
Radio Luxembourg
Yr Ods
Meibion Ffred
Stonefree
Nos Sadwrn
Huw Chiswell a'r band
Gai Toms
Gwibdaith Hen Fran
Brigyn
Al Lewis
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

