Fel ma' holl ffans Geraint Jarman yn gwybod - hir yw pob aros, ond o'r diwedd mae casgliad cyflawn o recordiau'r canwr ar fin dod allan ar CD, ac mae'r dyn ei hun yn dechrau cyflwyno cyfres arbennig ar C2, Radio Cymru.
Cliciwch yma i fynd i'r gyfres
Mae Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr wastad wedi bod yn un o'r grwpiau mwya' pwysig a dylanwadol erioed yng Nghymru. "Bydda i'n chwarae tracs o'r casgliad felly dyma'r cyfle cyntaf i glywed rhai o'r hen glasuron gyda'r sain newydd," esbonia Geraint Jarman.
"Mae'n braf clywed y caneuon ar CD gan eu bod nhw'n swnio'n wahanol ac yn agosach i sain y stiwdio. Weithiau doedd vinyl ddim yn adlewyrchu'r sain yn gywir."
Yn ogystal ag ail-fwynhau recordiau Jarman bydd cyfle hefyd i glywed fersiynau newydd o'r clasuron gan rhai o gerddorion gorau'r sîn.
"Fi'n lico clywed artistiaid eraill yn perfformio'r caneuon ac mae'n neis bod nhw'n gweld gwerth ynddyn nhw. Ma' Cofi Bach a Tew Shady yn rapio weithie a canu weithie yn eu recordiad nhw sy'n ddiddorol iawn.
"Mae Steve Eaves wedi dewis canu Ffermwyr Mewn Dinas sy'n itha obsciwar a fi'n thrilled gan fod e mor annisgwyl." Y bandiau eraill sy'n recordio fersiynau newydd o ganeuon Jarman yw MC Mabon, Lleuwen, Acid Casuals, 9Bach ac Yr Ods - rhywbeth i bawb!
Bydd Jarman yn olrhain hanes rhai o'r traciau yn y gyfres ac yn cael sgwrs gyda gwestai bob wythnos sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa a'i gerddoriaeth. Caiff sylw arbennig ei roi i'r Cynganeddwyr a fu'n perfformio gydag e dros y blynyddoedd - mae ambell un wedi chwarae gydag artistiaid fel Van Morisson, Paul McCartney a The Who.
Cyfres newydd Geraint Jarman ar C2, Radio Cymru - yn dechrau nos Fercher, Mehefin 11, 10pm.
Gwrando
Gwrando'n fyw
Ymlaen nawr: C2: Daniel Glyn (23:02-01:00)
Marc Real yn edrych nôl dros ddigwyddiadau'r flwyddyn.
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

