Advertisement

Gŵyl Gardd Goll 2009

Gŵyl Gardd Goll

Dilwyn Llwyd gyhoeddodd fanylion Gŵyl Gardd Goll 2009

Dilwyn Llwyd - canwr Yucatan ac un o drefnwyr Gŵyl Gardd Goll fuodd yn westai gyda Magi nos Iau yn cyhoedd pryd a phwy fydd yn chwarae yn yr ŵyl eleni.

Mae'r cyfuniad o berfformiadau cofiadwy gan fandiau ac artistiaid megis Derwyddon Dr Gonzo ac Euros Childs yn ogystal a thywydd a lleoliad hyfryd wedi gwneud hi'n ddiwrnod pwysig i galendr cerddorol Cymru.

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, bydd Gala Operatig yn cael ei chynnal ar nos Wener Gorffennaf 24ain gyda chantorion lleol a chenedlaethol yn cymryd rhan.

Bydd yr bandiau yn chwarae ar ddydd Sul 26ain o Orffennaf rhwng 12 y pnawn a 7 yr hwyr.

Lleoliad:
Parc Glynllifon ger Caernarfon.

Bandiau Dydd Sul:
Derwyddon Dr Gonzo, Sibrydion, Race Horses, Heather Jones, Richard James, Plant Duw, Yucatan, Gwyneth Glyn, Mr Huw, Cate Le Bon, Yr Ods, Eitha Tal Ffranco, Band Deiniolen, Sweet Baboo, Ed Holden, Lladron, Endaf Presley, Alun Gaffey, Aron Elias, Ryan Kift, DJ Fuzz Felt.

Pris Tocynnau:
Oedolion: £12
Plant: £5
Tocyn Teulu: £29

Gwefan:
www.myspace.com/gwylgarddgoll

Gwrandewch ar sgwrs Dilwyn a Magi

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.