Frizbee'n hedfan yn uchel!

Frizbee

Mewn noson gyffrous ym Mangor nos Iau cyhoeddwyd mai Da Ni Nol gan Frizbee yw hoff gân gwrandawyr Radio Cymru eleni. Roedden nhw hefyd yn y 3edd safle gyda Ti (Si Hei Lw) - cân gafodd ei recordio fel sesiwn i C2 llynedd.

Mewn ymateb i'r newyddion da - medde Ywain Gwynedd, prif leisydd y band, "Mae hyn yn wych! Diolch yn fawr i bawb am bleidleisio. Diolch i'n teuluoedd, diolch i'r cefnogwyr, i'r rhai sydd wedi bod yn ein gwylio ni dros y ddwy flynedd a hanner emosiynol diwethaf - a diolch hefyd i Radio Cymru."

Mae siart 100 ucha' Mawredd Mawr yn cael ei dewis gennych chi, wrandawyr Radio Cymru - ac eleni, fe benderfynoch chi mai'r gân oddi ar albym gynta Frizbee, Hirnos sy'n haeddu i fod ar y brig.

Bellach mae Frizbee yn aelodau o glwb egscliwsif sy'n cynnwys rhai o brif artistiad Cymru gan gynnyws Bryn Fôn, Big Leaves, Maharishi a Diffiniad. Llongyfarchiadau mawr i Frizbee gan bawb yma yn C2!

Mi gewch chi gyfle i glywed sesiwn newydd sbon gan Frizbee wythnos yma ar C2. Mi fydd Lisa Gwilym yn chwarae un gân o'r sesiwn ar ei rhaglen hi nos Lun (Tachwedd 21), bydd Daf Du yn chwarae trac arall ar nos Fawrth cyn i Huw Stephens chwarae'r sesiwn yn llawn ar ei raglen nos Fercher - yn ogystal â chael sgwrs gyda Ywain, Owain a Jason. Ar ôl nos Fercher cliciwch yma i glywed y sesiwn yn llawn.

Dyma 100 ucha Mawredd Mawr eleni:

  • 1. Frizbee - Da Ni Nôl
  • 2. Dafydd Iwan - Yma o Hyd
  • 3. Frizbee - Ti
  • 4. Bryn Fon - Abacus
  • 5. Poppies - Sex Sells
  • 6. Bryn Fôn - Ceidwad y goleudy
  • 7. Huw Chiswell - Y Cwm
  • 8. Anweledig - Cae yn Nefyn
  • 9. Bryn Fôn - Bardd o Montreal
  • 10. Vanta - Tri Mis a diwrnod
  • 11. Elin Fflur - Harbwr Diogel
  • 12. Maharishi - Tŷ ar y mynydd
  • 13. Daniel Lloyd a Mr Pinc - Goleauadau Llundain
  • 14. Y Cyrff - Cymru, Lloegr a Llanrwst
  • 15. Super Furry Animals - Ysbeidiau Heulog
  • 16. BOB - Defaid
  • 17. Mim Twm Llai - Straeon y Cymdogion
  • 18. Meic Stevens - Erwan
  • 19. Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb
  • 20. Mim Twm Llai - WbanCrw
  • 21. Sibrydion - Dafad Ddu
  • 22. Daniel Lloyd a Mr Pinc - Eldon Terrace
  • 23. Poppies - Cam
  • 24. Bryn Fôn - Rebel Wicend
  • 25 Ashokan - Dim Coes Dim Brêc
  • 26. Bryn Fô - Un Funud Fach
  • 27. Big Leaves - Seithennyn
  • 28. Bryn Fôn - Mistar T
  • 29. Texas Radio Band - Chwaraeon
  • 30. Kentucky AFC - Bodlon
  • 31. Super Furry Animals - Y Teimlad
  • 32. Pala - Meddwl yn ôl
  • 33. Sobin a'r Smaeliaid - Gwlad y Rasta Gwyn
  • 34. Gwyneth Glyn - Adra
  • 35. Edward H. Dafis - Ysbryd y Nos
  • 36. Meic Stevens - Y Brawd Houdini
  • 37. Texas Radio Band - Fideo Hud
  • 38. Frizbee - Dora Gusan
  • 39. Meic Stevens - Dic Penderyn
  • 40. Winabego - Dal fi Fyny
  • 41. Meinir Gwilym - Cymru USA
  • 42. Mim Twm Llai - Sunshine Dan
  • 43. Edward H. Dafis - Pishyn
  • 44. Poppies - Dau Bys
  • 45. John ac Alun - Chwarelwr
  • 46. Y Ficar - Cei Felinheli
  • 47. Frizbee - Olwyn Hud
  • 48. Y Cyrff - Llawenydd Heb Ddiwedd
  • 49. Anweledig - Hunaniaeth
  • 50. Geraint Jarman - Gerddi Babylon
  • 51. Radio Luxemborg - Fuzzy Rug
  • 52. Anweledig - Eisteddfod
  • 53. Meinir Gwilym - Dybl Gin a Tonic
  • 54. Celt - Dros Foroedd Gwyllt
  • 55. Alun Tan Lan - Distawrwydd
  • 56. Mim Twm Llai - Clwb y Tylluanod
  • 57. Anhysbys - Awel Fwyn
  • 58. Meinir Gwilym - Wyt ti'n Gem?
  • 59. Super Furry Animals - Torra fy Ngwallt yn Hir
  • 60. Mattoidz - Sos Coch
  • 61. Huw Chiswell - Rhywbeth o'i Le
  • 62. Y Cyrff - Hwyl Fawr Heulwen
  • 63. Salero - Garej Ifor
  • 64. Meic Stevens - Cân Walter
  • 65. Sobin a'r Smaeliaid - Brengain
  • 66. Bryn Fôn - Yn y Dechreuad
  • 67. Kentucky AFC - Unarddeg
  • 68. Iwcs - Tro fo Mlaen
  • 69. Mim Twm Llai - Tafarn Yn Nolrhedyn
  • 70. Meic Stevens - Rue St Michel
  • 71. Gruff Rhys - Pwdin Ŵy
  • 72. John ac Alun - Penrhyn Llyn
  • 73. Brigyn - Os Na Wnei di Adael Nawr
  • 74. Gruff Rhys - Ni yw y byd
  • 75. Anweledig - Wga Bwga
  • 76. Estella - Gwin Coch
  • 77. Dafydd Iwan - I'r Gad
  • 78. Bryn Fôn - Llythyrau Tyddyn y Gaseg
  • 79. Dafydd Iwan - Hawl i Fyw
  • 80. Newshan - Godro'r Fuwch
  • 81. Super Furry Animals - Calimero
  • 82. NAR - Cymro
  • 83. Mim Twm Llai - Cwmorthin
  • 84. Sarah Louise - Siocled a Gwin
  • 85. Mattoidz - Dyn Telesales
  • 86. Anweledig - Ticiticitembo
  • 87. Maharishi - Teilio'r Bathrwm
  • 88. Huw Chiswell - Tatws
  • 89. Dafydd Iwan - Pam fod Eira'n Wyn
  • 90. Bysedd Melys - Gorau Glas
  • 91. Maffia Mr Huws - Gitar yn y To
  • 92. Estella - Dy natur Di
  • 93. Anweledig - Dwi'n gwybod sut ti'n licio dy de
  • 94. Super Furry Animals - Drygioni
  • 95. Bryn Fôn - Coedwiig ar Dân
  • 96. Caban - Coeden Ffati Dew
  • 97. Bando - Chwarae'n Troi'n Chwerw
  • 98. Sibrydion - Blithdraphlith
  • 99. Ryland Teifi - Stori Ni
  • 100. Yr Anrhefn - Rhedeg i Baris

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.