Ar ol pum mlynedd o gigio'n galed, a sefydlu eu hunain fel un o brif-fandiau y sin gerddoriaeth yng Nghymru, mae Frizbee wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i gymryd seibiant.
Yn dilyn cwpwl o fisoedd trist i'r sin, gyda thri arall o brif-fandiau Cymru - y Genod Droog, y Rei, a Swci Boscawen yn gwahanu, mae'r newyddion newydd gyrraedd C2 fod y band poblogaidd o Flaenau Ffestiniog, Frizbee, yn mynd i fod yn gwneud eu gig olaf (tan y tro nesaf) ddiwedd y mis.
Rhyddhawyd albym gyntaf y band 'Hirnos' nol yn 2004, a chyda caneuon bachog fel 'Da Ni Nol' a 'Ti (Si Hei Lw)' daeth y band yn ffefrynnau led-led Cymru, gan gigio'n galed i wneud enw iddynt eu hunain.
Chwe mis yn ddiweddarach, rhyddhawyd yr EP 'Lennonogiaeth' - a bu disgwyl eiddgar am yr albym nesaf 'Pendraw'r Byd' a ryddhawyd ym mis Ebrill 2006. Erbyn hyn, roedd y band wedi ennyn cefnogaeth enfawr, ac wedi sefydlu eu hunain fel un o brif-fandiau Cymru.
Cadarnhawyd eu lle fel un o brif-fandiau Cymru dros y misoedd a ddilynodd, ac wedi iddynt gloi'r nos Iau yn Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe fis Awst yr un flwyddyn, fe ryddhaodd y band eu pedwerydd CD - albym o set byw y band yn Maes B.
Erbyn hyn, roedd y band yn gigio cymaint fel yr aeth y triawd - Ywain Gwynedd, Owain Jones, a Jason Hughes - yn fand llawn-amser, gan roi eu holl amser ac egni i fewn i'r band. Cawsant y prif-slot yn Maes B, Eisteddfod yr Wyddgrug 2007, gan gloi pethau ar y nos Sadwrn olaf - slot y mae cymaint o fandiau ifanc Cymru yn ei weld fel pinacl i'w gyrfa.
Dangosodd y band nad oeddynt yn cymeryd eu hunain rhy o ddifrif dros y Nadolig y flwyddyn honno, gan ryddhau y sengl nofelti 'O Na Mae'n Ddolig Eto' - a gwneud sawl ymddangosiad ar y teledu wedi gwisgo fel pwdin Nadolig, gweision Sion Corn ac ati.
O fod wedi cyflawni cymaint mewn amser mor fyr, roedd yn anodd gweld ble fyddai Frizbee yn troi nesaf, a chafwyd yr ateb ar yr albym 'Creaduriaid Nosol' - gyda datblygiad amlwg i'w glywed yn swn y band. Roedd naws eu caneuon wedi newid, a gellid cymharu rhai o'r caneuon i swn 'The Heights' cyn iddynt chwalu.
Bydd Frizbee yn perfformio eu gig olaf (am y tro) ar nos Sadwrn, Rhagfyr 20fed yng Nghlwb Rygbi Dolgellau - ac os ydych yn aelodau ar Facebook - y safle gwe rhwydweithio-cymdeithasol, gallwch weld manylion pellach am y gig drwy glicio yma.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

