Advertisement

Ffeinal Brwydr y Bandiau

Brwydr y Bandiau

Mae'r amser wedi dod i goroni pencampwyr Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2008, a bydd y rownd derfynol yn cael ein chynnal ar Nos Fercher, Gorffennaf 2ail.

Mae bron i fis wedi pasio ers i'r rowndiau cyn-derfynol gael eu cynnal, ac i farciau'r beirniaid a phleidleisiau'r gwrandawyr benderfynu mai Tempo (o Grymych), Stone Free (o Aberystwyth), ac Yr Offbeats (hefyd o Grymych) yw'r tri band fydd yn cystadlu am y teitl.

Yn ystod y cyfnod yma, mae'r bandiau wedi bod yn paratoi yn feddyliol, yn gorfforol, ac yn emosiynol tuag ar y noson fawr, ac wedi treulio diwrnod mewn stiwdio recordio broffesiynol yn recordio eu can ar gyfer y ffeinal.

I ddarganfod popeth am y 3 band, beth am edrych er eu proffeiliau isod:

Brwydr y BandiauTempo
o Grymych

Brwydr y BandiauStone Free
o Aberystwyth

Brwydr y BandiauYr Offbeats
o Grymych

Bydd y rownd derfynol yn cychwyn ar C2, BBC Radio cymru am 8pm ar Nos Fercher, Gorffennaf 2ail, a bydd y tri beirniaid - Owen Powell, Bethan Elfyn, a Rhodri Llwyd Morgan - yn cadw cwmni i Magi Dodd yn y stiwdio, a'r llinellau pleidleisio yn agor wedi 9.30pm.

Cliciwch isod am fanylion llawn y gystadleuaeth a'i rheolau:

Rheolau llawn y gystadleuaeth

Rheolau pleidleidio dros y ffon

Côd Ymddygiad Cystadlaethau y BBC

Neu beth am ymweld a thudalen gartref Brwydr y Bandiau.

Gwrando

Gwrando'n fyw

Ymlaen nawr: C2: Hefin Thomas (23:02-01:00)

Dwy awr ola darlledu'r dydd yng nghwmni Hefin Thomas.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.