Ffa Coffi Pawb Am Byth

Ffa Coffi Pawb

"Ffa Coffi Pawb Am Byth" - dyna fydd enw casgliad newydd un o'r grwpiau gorau welodd Cymru erioed. Dros 10 mlynedd ers chwalu mae'r grwp Ffa Coffi Pawb wedi cyhoeddi bydd y label Placid Casual (label y Super Furry Animals) yn rhyddhau casgliad o'u goreuon ar Awst 2il eleni.

I'r rheiny sy'n rhy ifanc i gofio clasurol fel Ffarout, Allan o'i Phen, Sega Segur a Valium, dyma gyflwyniad perffaith i hen fand Gruff Rhys a Dafydd Ieuan o'r Super Furry Animals. Ac i'r hen rocyrs sy'n cofio'r cyfnod yn iawn yna dyma gyfle arbennig i ail fyw atgofion o Fideo 9, Sothach, Steddfod Llanrwst a Noson Claddu REU!

Ond nid Gruff a Dafydd oedd yr unig sêr yn y band - aeth y gitarydd Rhodri Puw ymlaen i berfformio gyda Gorky's Zygotic Mynci a Psycho VII, a bu'r basydd Dewi Emlyn yn chwarae i'r Furries a Gorky's ar ôl hynny hefyd. Ond roedd y 90au cynnar yn oes aur i'r sîn Gymraeg, ac yn sicr roedd Ffa Coffi Pawb o Fethesda yn un o fandiau pwysica'r cyfnod.

Daeth diwedd ar y band yn 1993 ar ôl rhyddhau'r albym 'Hei Vidal' ar label Ankst, a phan ddaeth Ffa Coffi Pawb i ben daeth cyfnod cerddorol yng Nghymru i ben hefyd. Bydd y casgliad yn cynnwys 16 o ganeuon - i gyd yn dod o'u 4 albym, o hen feinyls 12" prin, ac o recordiau aml-gyfrannog. Dyma restr llawn o'r caneuon:

O'r albym Dalec Peilon, 1988
Valium
Gwneud Fy Mhen i Fewn
Mynd i Lawr

O'r albym Clymhalio, 1991
Breichiau Hir
Gweld Dim Byd
Hydref yn Sacramento

O'r albym Hei Vidal, 1992
Sega Segur
Arwynebol Melyn
Lluchia dy Fflachlwch Drosda i
Ffarout
Colli'r Goriad

O'r albym Torrwyr Beddau Byd Eang Cyf, 1986
Llosga Nhy i Lawr

Eraill
Gwn (o hen record gyda'r band 'Terry Waite a'r Asid', 1989)
Dwi'n Troi'n Ffrwyth (Feinyl 12", 1989)
Allan o'i Phen (Feinyl 12", 1990)
Gafael Yn Dynn (o'r albym aml-gyfrannog 'Hei Mr DJ', 1991)

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.