Advertisement

Dan y Cownter 3 - Cerddoriaeth Gymraeg am ddim!

Dan y Cownter 3

Cyfle i lawrlwytho 10 trac Cymraeg am ddim!

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd mi wnaeth safle gwe Dan y Cownter ddod yn fyw.

Os nad ydych chi wedi ymweld a'r safle gwe eto - ewch ar unwaith!

Mae Huw Stephens wedi dewis 10 trac Cymraeg newydd ar gyfer y casgliad Dan y Cownter 3, ma mae nhw i gyd ar gael am ddim i'w lawrlwytho.

Y sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Bwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n gyfrifol am roi'r casgliad at ei gilydd.

Dywedodd Huw S:
Unwaith eto mae Dan y Cownter yn gasgliad cyffrous sy'n adlewyrchu rhai o gerddorion talentog a phrysur y sin. Fi'n sicr bydd llaewr yn cael boddhad allan o'r caneuon yma, a gobeithio byddant yn creu argraff ar lawr o ffans newydd."

A'r traciau sydd ar gael i'w lawrlwytho:

  1. Derwyddon Dr Gonzo - Bwthyn

  2. Cate Le Bon - Byw Heb Farw

  3. Eitha Tal ffranco - Os Ti'n Ffosil

  4. Fflur Dafydd a'r Barf - Dala Fe Nô
  5. l
  6. Mattoidz - Z List

  7. Mc Mabon - Be Di Be

  8. Messner - Yn Dy Ben

  9. Mr Huw - Morgi Mawr Gwyn

  10. Wrightoid - Mae 'Na Afon

  11. Y Diwygiad - Paneidiwch
Mi fydd cyfle hefyd dros yr haf i weld rhai o fandiau Dan y Cownter 3 yn perfformio ar lwyfan Bwrdd yr Iaith yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.