Advertisement

Disco Cymraeg

Ian Cottrell

Cyfres newydd Ian Cottrell ar C2

Rhaglen 1
Rhaglen 2
Rhaglen 3
Rhaglen 4
Rhaglen 5

Ym 1989 digwyddodd dau beth pwysig i mi. Ym mis Ionawr y flwyddyn honno, ar daith sgïo'r ysgol i'r Eidal cafodd y rhai ohonon ni oedd yn 15 oed a throsodd (oni'n 15 a hanner) fynediad i glwb nos cyn iddo agor er mwyn i ni fedru cael "un noson allan yn y disco".
O'dd rhaid i ni fod o 'na erbyn 11 cyn i'r clwb agor go iawn ond doeddwn i ddim yn cwyno, achos yn y ddwy awr a hanner prin on'i yno, daeth fy mreuddwydion i gyd yn wir. Chwe mis yn ddiweddarach on'i newydd gwblhau fy arholiadau TGAU, ac un o'r pethau oedd wedi'i addo i mi gan fy ffrindiau hŷn yn "Y Chweched" oedd taith i'r clwb nos lleol; The Tivoli ym Mwcle.

Felly, ar noson braf union ugain mlynedd yn ôl, gwisges i fy 'sgidiau, trowsus a chrys gorau, a chiwio yn yr haul tu allan. Oni'n gallu clywed y curiadau oedd yn dod oddi fewn y clwb. On i'n 'nabod y trac - on'i 'di clywed Stu Allan yn chwarae fo ar ei raglen radio ar Key 103 trwy'r haf. Oni'n ysu i ruthro trwy'r drysau er mwyn rhedeg ar y llawr dawns a mynd yn holloll mental i be' oni'n gallu clywed. Heb fawr o stress ges i mewn yn hawdd, cerdded tuag at y til, talu fy mhres ac yna mewn slo-mo sinematig agorodd ddrysau'r brif stafell... OH WOW!

Y trac yn chwarae yn y clwb oedd 'Voodoo Ray' gan A Guy Called Gerald. Yn y clwb yn Yr Eidal oni 'di clywed 'It's Alright' gan Sterling Void, 'Big Fun' gan Inner City, 'I Want A Dog' - remix Frankie Knuckles, wrth gwrs - gan y Pet Shop Boys a llwyth o gerddoriaeth House anhygoel o'r Eidal ac America. Hwn oedd Y DECHREUAD ™.

Efo fi yn y ddau glwb oedd fy ffrindiau fyddai'n ddiweddarach yn dod yn gyd-aelodau o'r grŵp Diffiniad. Mae'r profiadau yn y ddau glwb yn rhai fyddwn ni byth yn anghofio. Fanna gatho ni ein haddysg a thrwy gariad at y gerddoriaeth hon aethon ni ati i geisio gwneud rhywbeth tebyg yn y Gymraeg.

Mae'r stori hon yn un bersonol, ond yn un sy'n atseinio gyda nifer o unigolion eraill sydd wedi creu cerddoriaeth ddawns Gymraeg dros y deng mlynedd ar hugain diwetha'.
Mewn cyfres newydd ar C2 o'r enw Disco Cymraeg bydda i'n edrych ar sut 'nath arddulliau mor amrywiol ac estron â house, hip-hop, electro, funk, techno a reggae dreiddio mewn i'n cerddoriaeth ni yma yng Nghymru. Yn ystod y gyfres bydda i'n bwrw golwg dros rhain a mwy, yn chwarae rhai o'r traciau dawns Cymraeg mwya' cofiadwy a dylanwadol o'r cyfnod dan sylw, yn ogystal â rhai llai adnabyddus - ac yn siarad efo'r bobl sy' 'di chwarae rhan yn y sîn hwn; sîn sy' 'di pontio'r tanddaearol a'r masnachol.

Dros y pump wythnos bydd cyfle i glywed gan bobl fel John Griffiths, oedd wedi gweld y sîn Hip-Hop ifanc yn Efrog Newydd ar ddechrau'r 80au cyn dod â'r syniadaeth adre' a chreu Llwybr Llaethog; Gareth Potter a'i atgofion o raves y nawdegau cynnar oedd wedi ysbrydoli Tŷ Gwydr a'r cynhyrchydd Gorwel Owen yn esbonio'i modus operandi. Roedd y bobl hyn wedi gosod y seiliau i grwpiau fel Clinigol, Plyci, Pen-Ta-Gram, Cyrion a Derwyddon Dr Gonzo - grwpiau sydd yn cynnal y sîn heddiw, a byddwn ni'n clywed ganddyn nhw hefyd.

Ar y rhaglen gyntaf 'dyn ni'n edrych ar wreiddiau'r sîn ddawns trwy fynd yn ôl i'r flwyddyn 'nath cerddoriaeth Disco ffrwydro ar draws y byd ac hefyd y flwyddyn pan ryddhawyd y trac dawns cynta' erioed yn y Gymraeg. Ond i glywed beth yw hwnnw, bydd rhaid i chi diwnio mewn...

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.