Gwefan i lansio'n fuan ar gyfer trydydd casgliad o gerddoriaeth Gymraeg.
Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn bwriadu lansio'r trydydd yn y gyfres poblogaidd Dan y Cownter mewn fformat newydd - fel gwefan!
Roedd Dan y Cownter a Dan y Cownter 2 yn gryno ddisgiau o'r gerddoriaeth ddiweddaraf a gorau o Gymru, a ddosbarthwyd am ddim i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg.
Bydd y wefan newydd, sy'n lansio'n fuan, yn cynnig 10 trac Cymraeg gelli di lawrlwytho am ddim. Fyddi di hefyd yn gallu lawrlwytho rhifyn newydd o'r llyfryn 16-tudalen oedd yn cael ei gynnwys gyda'r cryno ddisgiau blaenorol - yn llawn o wybodaeth am fusnesau a sefydliadau sy'n gweithio o fewn y sîn cerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys labeli recordio, gwyliau cerddorol, gigs rheolaidd, gwefannau a ffansins.
Mae Huw Stephens, sy'n DJ yma ar C2 a Radio 1, yn mynd i helpu i lunio rhestr fer o draciau, ac yna bydd grwpiau ieuenctid ledled Cymru yn dewis pa rai y dylid eu cynnwys ar y safle.
"Dwi'n falch bod Dan y Cownter yn parhau gyda'r gwaith da o hybu cerddoriaeth Gymraeg - yn syth i'ch chwaraewr MP3 neu iPod y tro hwn!" meddai Huw.
Bydd y wefan yn cael ei lansio ar stondin Bwrdd yr Iaith yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Conwy, ddiwedd mis Mai 2008.
Os wyt ti mewn band neu'n rhedeg label, gelli di anfon dy draciau Cymraeg at y SCG er mwyn cael cyfle i gynnwys dy gerddoriaeth di yn y casgliad newydd. Dylid anfon y traciau - ar ffurf CD yn unig i:
Dan y Cownter 3
Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig
33 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd CF10 5LH
Dyddiad Cau: Dydd Llun Ebrill 21, Canol dydd.
Am fwy o wybodaeth, cymer olwg ar wefan Dan y Cownter, sydd efo rhestr lawn o'r meini prawf - neu ffonia 029 20494110 neu e-bostio ymholiadau@welshmusicfoundation.com .
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

