Tocyn Parcio i Chouchen
Grwp sy'n dychwelyd ar ôl seibiant o'r sîn ydy Chouchen - mae nhw'n nôl gyda CD newydd o'r enw Tocyn Parcio. Ar ôl cefnu ar eu gwreiddiau gwerin, mae'r grwp yn dilyn trywydd trymach a mwy trydanol ar yr EP newydd.
Dyma gryno ddisg cyntaf Chouchen ers yr albym 'Deud Dim' nol yn 2001. Mae Tocyn Parcio EP yn cael ei ryddhau ar label Crai, mae'n cynnwys pedair cân Tocyn Parcio, Alaw sy'n Gyrru'r Gân, Cyfarchydd Achlysurol a Pwylla, a mae o allan yn y siopau wythnos yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

