Os ydych chi'n ffan o Radio Luxembourg, Brigyn, Gai Toms neu Elin Fflur, yna byddwch yn falch o glywed fod albyms newydd ar y ffordd gan y pedwar ohonyn nhw.
Yn draddodiadol, adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r cyfnod y mae'r rhan fwyaf o fandiau Cymru yn rhyddhau eu cynnyrch newydd, ond mae 2008 yn argoeli i fod yn flwyddyn dra gwahanol!
Mae C2 wedi cael arddeall fod pedwar o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru wedi bod yn brysur yn recordio dros y misoedd diwethaf, ac y byddwch yn medru cael eich gafael ar y CDs cyn yr Eisteddfod.
Brigyn - Brigyn 3
Mae'r band wedi gorffen y gwaith recordio ar gyfer eu trydedd albym - 'Brigyn 3' - yn gynharch yn y mis, ac mae'r CD's yn cael eu gwasgu a'u printio ar hyn o bryd. Bydd copi ohono yn ein cyrraedd yma cyn diwedd mis Ebrill, felly disgwyliwch glywed y caneuon newydd yn fuan!
Elin Fflur - Hafana
Mae'n dros dair mlynedd ers i Elin Fflur ryddhau ei halbym ddiwethaf - Dim Gair - ym mis Rhagfyr 2006, ac mae aros mawr wedi bod am ei thrydedd albym - Hafana. Ers dwy flynedd bellach, mae hi a'r band wedi bod yn gweithio ar yr albym newydd, ac mae disgwyl iddo gael ei ruddhau tua diwedd mis Mai. Byddwch yn clywed y caneuon am y tro cyntaf unrhyw-le yn y byd, yma ar C2.
Radio Luxembourg
Cafodd C2 wybod heddiw gan Gaffey o'r band eu bod wedi bod yn 'recordio 'tha cythreuliad ar gyflymder' a'u bod newydd orffen recordio eu halbym gyntaf. Nid yw'r band wedi cadarnhau unrhyw fanylion ynglyn a label na dyddiad rhyddhau hyd yma, ond edrychwn ymlaen i glywed albym ddwy-ieithog y band.
Gai Toms - Rhwng y Llygru a'r Glasu
Fis Chwefror, cyhoeddodd Gai Toms ei fod yn mynd i fod yn rhyddhau dwy albym yn 2008 - un Gymraeg, ac un Saesneg, ac y bydd yr albym Gymraeg 'yn cael ei chynhyrchu yn defnyddio egni adnewyddol. Bydd y caneuon i gyd hefyd yn ymwneud a chysyniadau amgylcheddol. Concept album 'werdd' os liciwch chi!'
'Ffish Ffresh' fydd enw'r albym Saesneg, ac yn dilyn cystadleuaeth ar y wê, mae newydd gadarnhau mai 'Rhwng y Llygru a'r Glasu' fydd enw'r albym Gymraeg. Mae'r dyddiad rhyddhau i'w gadarnhau, ond mae'n gobeithio ei ryddhau yng Ngwyl Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog fis Mehefin.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

