Ysbeidiau Heulog ym Methesda
Pan nath Gruff Rhys o'r Super Furry Animals ddechrau ei yrfa cerddorol yn chwarae'r dryms i fand o'r enw Y Wawr, doedd o byth yn meddwl y byddai'n dychwelyd i Fethesda fel seren fyd-enwog i agor Gwe Gaffi a Chanolfan Hyfforddi ar gyfer cenhedlaeth newydd o gerddorion yr ardal!
Ond dyna fydd yn digwydd ar nos Fawrth, Mai 25, rhwng 6:30pm a 7:30pm pan fydd o'n helpu i agor Gwe Gaffi a Chanolfan Hyfforddi Pesda Roc ym Methesda. Dyma ganolfan fydd yn trefnu llwythi o gigs lleol ac yn trefnu gweithdai cerddorol i bobl ifanc bob nos Iau rhwng 7pm a 9pm yn y Clwb Rygbi.
I gyd-fynd â'r agoriad, mae'r cwmni wedi trefnu gig yng Nghlwb Rygbi Bethesda gyda Bob Delyn a'r Ebillion a Drumbago ar nos Wener, Mai 28ain a bydd y cwmni hefyd yng ngofal gwyl Pesda Roc Bach ar Fehefin 18-20 eleni.
Yn yr 80au a'r 90au, Bethesda oedd prif ddinas roc Cymru gyda bandiau mawr fel Ffa Coffi Pawb, Maffia Mr Huws, Celt a Jecsyn Ffeif i gyd yn dod o'r ardal. Ac os ydach chi eisiau dilyn yn ôl traed Gruff Rhys a'r bandiau yma, yna ewch draw i'r gweithdai yn y Clwb Rygbi a helpwch gwmni Pesda Roc i roi Bethesda nôl ar fap y byd roc!
Am fwy o newyddion y Super Furry Animals, cliciwch yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.