Advertisement

C2 Dolig 2008

Nadolig C2

Dros y Nadolig bydd arlwy C2 ychydig bach yn wahanol i'r arfer. Bydd cyfle i edrych yn nôl dros rai o ddigwyddiadau'r flwyddyn - dyma'r amserlen...

Mercher 24 Rhagfyr
20.00-22.00 - Magi Dodd: Poptastic a Rhydian Roberts
Rhaglen pop-tastic Nadoligaidd gyda Magi, Ian Cottrell a chyfle arall i glywed cyfweliad anhygoel Magi gyda Rhydian Roberts o'r X-Factor.

22.00-23.00 - Penblwydd Clwb Ifor Bach
Huw Stephens a'i westeion yn edrych nol dros chwarter canrif o gigs a digwyddiadau yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd - sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 25 eleni.

23.00-01.00 - Carolau C2 yn yr Eglwys Norwyaidd
Cyngerdd carolau cyntaf C2, a recordiwyd yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd. Perfformiadau o ganeuon Nadoligaidd newydd a chyfarwydd gan Gai Toms, Hanner Pei, Brigyn, Cowbois Rhos Botwnnog a Gwyneth Glyn, Al Lewis, a chor Aelwyd Waunddyfal.

Iau 25 Rhagfyr
22.30 (dechrau hwyrach)-23.00 - Sesiwn Fawr Dolgellau
Lisa Gwilym yn cyflwyno uchafbwyntiau Sesiwn Fawr Dolgellau - Maffia Mr Huws, Meic Stvens, Gai Toms, Steve Earle a llawer mwy!

23.00-24.00 - Blwyddyn Georgia Ruth Williams
Lisa Gwilym yn edrych yn ol ar flwyddyn anhygoel i Georgia, ac yn son am ei phorfiadau yn recordio yn Maida Vale, ac yn chwarae ar lwyfan BBC Yn Cyflwyno... yn Glastonbury.

24.00-01.00 - 'Steddfod Jeni Lyn
Jeni Lyn yn cyflwyno uchafbwyntiau gigs Maes-B a Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Caerdydd.

Gwener 26 Rhagfyr
20.00-22.00 - Gwyliwch y Gofod
Magi Dodd a Robin Owain Jones gyda dwy-awr gyfan o rai o'r bandiau newydd, mwyaf cyffrous yng Ngymru, gafodd sylw yn y slot 'gwyliwch y Gofod' ar C2 dros y flwyddyn.

22.00 - 23.00 - C2 yn cyflwyno Cerys Matthews
Set fyw wych gan Cerys Matthews, gafodd ei recordio ar ddydd Gwyl Ddewi ym Mhafiliwn Sioe Môn

23.00-24.00 - Lisa Gwilym: Sesiynau Acwstig
Uchafbwyntiau sesiynau acwstic Lisa dros y flwyddyn, gyda MC Mabon, Mr Phormula, 9 Bach, Sweet Baboo a llawer mwy.

24.00-25.00 - Uchafbwyntiau Jarman
Rhai o'r cyfweliadau a chaneuon gorau o gyfres Geraint Jarman ar C2 yn gynharach yn y flwyddyn.

Llun 29 Rhagfyr
20.00-22.00 - Magi Dodd: Siart y Flwyddyn
Pwy oedd y 10 uchaf yn siart y flwyddyn eleni? Magi Dodd yn cyfri lawr o 10-1 yn siart C2 y flwyddyn, ac edrych nol ar rai o rifau 1 siart y senglau 2008.

22.00-23.00 - Huw Stephens: Sesiynau C2
Uchafbwyntiau sesiynau'r flwyddyn, gan gynnwys traciau o sesiynau Texas Radio Band, Y Zimmermans, Yr Ods a llawer, llawer mwy!

23.00-24.00 - Blwyddyn Rhys Mwyn
Rhys Mwyn yn edrych yn ol ar uchafbwyntiau a siomedigaethau y flwyddyn yn ei ffordd unigryw ei hun.

24.00-25.00 - C2: Radio Maffia
Rhaglen arbennig yng nghwmni Neil Williams a Sion Jones o Maffia Mr Huws. 'Dyddia cynnar' ydy thema'r rhaglen gyntaf.

Mawrth 30 Rhagyfr
20.00-22.00 - Magi Dodd: Taith Bandit / C2 2008
Edrych nol dros daith ysgolion 2008, gyda chaneuon gan rhai o'r disgyblion, a siart y 10 uchaf o'r artistiaid Cymraeg a Saesneg mwyaf poblogaidd a ofynwyd amdanynt ar y daith.

22.00-23.00 - Huw Stephens yn Glastonbury
Cyfle i ail-glywed rhaglen arbennig Huw yn dilyn gwyl Glastonbuty eleni, a chyfweliadau efo rhai o'r artistiaid Cymraeg oedd yn chwarae yno.

23.00-24.00 - Uchafbwyntiau Brwydr y Bandiau
Dewch ar daith drwy gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2008, i glywed yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau ar hyd y ffordd!

24.00-25.00 - C2: Radio Maffia
Rhaglen arbennig yng nghwmni Neil Williams a Sion Jones o Maffia Mr Huws. 'Atgofion recordio' ydy thema'r ail raglen.

Mercher 31 Rhagfyr
20.00-22.00 - Magi Dodd a Glyn Wise: Ffilmiau'r Flwyddyn
Magi Dodd a Glyn Wise yn edrych yn ol dros ffilmiau y flwyddyn gyda dau o adolygwyr rheolaidd C2 - Elliw Mai a Osian Edwards.

22.00-23.00 - C2: Radio Maffia
Rhaglen arbennig yng nghwmni Neil Williams a Sion Jones o Maffia Mr Huws. 'Gigio' ydy thema'r drydydd rhaglen.

Iau 1 Ionawr
20.00-22.00 - Magi Dodd: Gwyliau'r Haf
Golwg nol ar wyliau cerddorol yr haf, a rhai o'r pecynnau a recordiawyd gan y bandiau oedd yn perfformio ynddynt.

22.00-23.00 - Blwyddyn Georgia Ruth Williams
Ail-gyfle i wrando ar Lisa Gwilym yn edrych yn ol ar flwyddyn anhygoel i Georgia, ac yn son am ei phorfiadau yn recordio yn Maida Vale, ac yn chwarae ar lwyfan BBC Yn Cyflwyno... yn Glastonbury..

23.00-01.00 - Blwyddyn Daniel Glyn
Daniel Glyn yn edrych nol ar 2008 yn ei ffordd unigryw ei hun, a chyfle i glywed cyfweliadau gyda rhai o'i hoff westeion dros y flwyddyn.

Gwener 2 Ionawr
20.00-22.00 - Grand Slam Magi a Glyn
Ddechrau'r flwyddyn cafodd Magi a Glyn ymgyrch i helpu Cymru i gipio'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth Rygbi'r 6 Gwlad, a chyda cymorth gwesteion fel Mr Picton a Wali Thomas, Clive Rowlands, Shane Williams, Nigel Owens, Dafydd Iwan a llawer mwy - yn ogystal a thrwy farcio'r cae yn Stadiwm y Mileniwm, bu'r ymgyrch yn llwyddiant! Holl gyffro a hwyl yr ymgyrch mewn un rhaglen gampus-lawnus!

22.00-23.00 - Blwyddyn Gwibdaith Hen Fran
Golwg yn ol ar flwyddyn anhygoel Gwibdaith Hen Fran yn cynnwys dyddiadur o'i taith i Wlad y Basg, ac uchafbwyntiau set Gwibdaith yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

23.00-24.00 - Goreuon C2 yn y Ciwb
Rhai o'r perfformiadau a chyfweliadau gorau o'r gyfres a recordiwyd yn y City Bar & Canteen ym Mae Caerdydd, ac a ddarlledwyd ar C2 yn gynharach yn y flwyddyn.

24.00-25.00 - C2: Genod Droog
Awr o gerddoriaeth wedi ei ddewis a'i gymysgu yn arbennig i C2 gan y Genod Droog.

Llun 5 Ionawr
Pethe nôl i'r arfer!!

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Criw C2 x

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.