Advertisement

C2 Dolig 2007

Nadolig C2

Dros y Nadolig bydd arlwy C2 ychydig bach yn wahanol i'r arfer. Bydd cyfle i edrych yn nôl dros rai o ddigwyddiadau'r flwyddyn - dyma'r amserlen...

Llun 24 Rhagfyr
20.00 - 22.00 - Magi a Glyn
Magi Dodd a Glyn Wise yn edrych nôl dros uchafbwyntiau (neu isafbwyntiau) Glyn yn Galw 2007, yn ogystal a'r ymgyrch 'Glyn yn y Gwyn yn yr Orsedd'.

22.00 - 23.00 - Radio Luxembourg yn y Proms Trydanol
Cyfle arall i chi glywed Jeni Lyn yn dilyn taith Radio Luxembourg i Proms Trydanol y BBC nôl ym mis Tachwedd.

23.00 - 01.00 - Daf Du
Y digrifwr (honedig) Gethin Thomas yn edrych ymlaen ar arlwy teledu y dyddiau nesaf, a Daf yn edrych nôl ar uchafbyntiau 'Beirdd yr Wythnos' 2007.

Mawrth 25 Rhagfyr
22.00 (dechrau hwyrach) - 01.00 - Sesiwn Fach
Lisa Gwilym yn cyflwyno uchafbwyntiau Sesiwn Fawr Dolgellau - Maffia Mr Huws, Meic Stvens, Gai Toms, Steve Earle a llawer mwy!

Mercher 26 Rhagfyr
20.00 - 21.00 - C2 yn y Ciwb
Y pigion gorau o'r gyfres 'C2 yn y Ciwb' a ddarlledwyd yn gynharach eleni.

21.00 - 22.00 - Rhys Mwyn
Rhys Mwyn yn edrych yn ôl ar 2007 - ei uchafbwyntiau, a'r 5 peth gwaelaf am y sîn eleni!

22.00 - 23.00 - Jeni Lyn yn y Steddfod (rhan 1)
Cyfle arall i glywed uchafbwyntiau o gigs Cymdeithas yr Iaith a Maes B - traciau gan Brigyn, Gwyneth Glyn, Y Ffyrc, Daniel Lloyd a Mr Pinc & Bryn Fôn.

23.00 - 01.00 - Goreuon Sesiynau Acwstic y Flwyddyn
Lisa Gwilym yn edrych nôl ar y sesiynau acwstig gorau, yn cynnwys setiau gan Euros Childs, Steve Eaves, Gwibdaith Hen Frân, a Kentucky AFC.

Iau 27 Rhagfyr
20.00 - 22.00 - Siart Taith C2 / Bandit
Be oedd hoff ganeuon disgyblion y daith? Magi Dodd fydd yn datgleu'r 10 ucha' a chware caneuon gan rai o fanidau'r daith gan gynnwys Y Rei, Mattoidz a Creision Hud.

22.00 - 23.00 - Jeni Lyn yn y Steddfod (rhan 2)
Uchafbwyntiau o gigs y Steddfod yn yr Wyddgrug. Cyfle i glywed traciau gan Euros Childs, Cowbois Rhos Botwnnog, Mr Huw, Y Rei, Sibrydion a Radio Luxembourg...

23.00 - 01.00 - Sesiynau a Bandiau Newydd '07
Y traciau gorau o sesiynau'r flwyddyn, a sgyrsiau efo Efa o'r Stilletoes, Dafydd o Eitha Tal Ffranco, Laura Nunez o She's Got Spies, a Heddwyn o'r Threatmantics. Hefyd traciau gan fandiau newydd gorau '07...

Gwener 28 Rhagyfr
20.00 - 22.00 - Jeni Lyn - Gŵyl y Faenol
Jeni Lyn yn cyflwyno rhai o uchafbwyntiau Gŵyl y Faenol yn 2007.

22.00 - 23.00 - Gŵyl Sŵn
Lisa Gwilym gyda chaneuon byw a chyfweliadau gyda Brigyn, Eitha Tal Ffranco a She's Got Spies o gig C2 yng Ngwŷl Sŵn gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd fis Tachwedd.

23.00 - 01.00 - Dafydd Du
Daniel Glyn yn ymuno â Daf Du, gan edrych nôl ar rai o straeon newyddion mwya' rhyfedd 2007 - a chyfle arall i glywed sgyrsiau gyda rai o arwyr comedi Cymraeg y gorffennol, yn cynnwys Syr Wynff a Plwmsan, Wcw, a Brian Lloyd Jones o Siop Siafins!

Llun 31 Rhagfyr
20.00 - 22.30 - Sesiwn Fawr Acwstig
Lisa Gwilym yn cyflwyno uchafbwyntiau o Theatr Acwstig Sesiwn Fawr Dolgellau 2007.

Mawrth 1 Ionawr
20.00 - 22.00 - Siart C2 y Flwyddyn
Magi Dodd yn datgelu 10 uchaf Siart C2 y flwyddyn 2007 - tybed pwy fydd yn rhif 1? Cyfle hefyd i glywed rhai o uchafbwyntiau bandiau Gwyliwch y Gofod yn ystod y flwyddyn.

22.00 - 23.00 - Gwyl Macs (rhan 1)
Jeni Lyn gyda uchafbwyntiau Gwyl Macs yng Nghaerfyrddin eleni.

23.00 - 01.00 - Blwyddyn Huw Stephens
Edrych nôl dros y gigs, gwyliau, CDs a bandiau gorau yn 2007 yng nghwmni Lyndsey Anne, Dyl Mei, Ian Cottrell a Hefin Jones - yn ogystal â thrafod pa fandiau i wylio allan amdanyn nhw yn 2008.

Mercher 2 Ionawr
Pethe nôl i'r arfer!!

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Criw C2 x

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.