Advertisement

Enillwyr Brwydr y Bandiau '09

Nevarro

Llongyfarchiadau enfawr i Nevarro o ardal Llanelli ar ennill Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2009, gan guro Crwydro (o Langefni) a Smashing Diamonds (o Rydaman) yn y rownd derfynol ar nos Fercher, Ebrill 29ain.

Clicia i wrando ar uchafbwyntiau Nevarro o'r ffeinal!

Rhwng y rowndiau cyn-derfynol a'r rownd derfynol, danfonwyd y tri band ifanc, brwdfrydig a thalentog i stiwdios recordio proffesiynol i recordio eu caneuon, gyda'r cynnyrch terfynol yn swnio'n gwbwl wych:

Smashing Diamonds - Rhyddhad
Nevarro - Angen Ti
Crwydro - Bron Yn Ddyn

Er mai pleidleisiau'r cyhoedd yn unig oedd yn penderfynu'r canlyniad, roedd tri beirniad proffesiynnol yn y stiwdio i roi eu sylwadau - y DJ a'r gyflwynwraig Bethan Elfyn; y rociwr eiconnig Rhodri Llwyd Morgan; a Hefin Jones o'r Sefydliad Gerddoriaeth Gymreig - ac fe gafodd y tri band sylwadau cymysg ganddynt:

Sylwadau'r beirniaid ar gân Smashing Diamonds
Sylwadau'r beirniaid ar gân Nevarro
Sylwadau'r beirniaid ar gân Crwydro

Mae'r wobr i'r band ifanc yn un sylweddol - byddant yn recordio Sesiwn i ni yma ar C2; yn cael ymddangos ar raglen deledu Uned 5 ar S4C; perfformio yn Maes B, Eisteddfod y Bala 2009; chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru; yn ogystal a pherfformio ar Daith Ysgolion C2 2009.

Llongyfariadau mawr unwaith yn rhagor i Nevarro, a phob dymuniad da iddyn nhw a'r holl fandiau eraill wnaeth gystadlu eleni. Rydym yn gobeithio clywed llawer mwy ganddyn nhw yn y dyfodol.

Gallwch weld proffeil fideo o'r band buddugol drwy glicio yma.

Neu i weld holl fanylion y gystadleuaeth eleni - proffeiliau fideo o'r holl fandiau, lluniau o Rowndiau Rhanbarthol 2009, a manylion yr holl gystadleuaeth cliciwch yma.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.