Llongyfarchiadau enfawr i'r Offbeats o Grymych ar ennill Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2008, gan guro Stone Free (o Aberystwyth) a Tempo (hefyd o Grymych) yn y rownd derfynol ar Orffennaf 2ail.
Er mai nid yr Offbeats gafod y marciau uchaf ar y noson gan y tri beirniaid - Owen Powell gynt o Catatonia, Rhodri Llwyd Morgan o'r band Cerrig Melys, a Bethan Elfyn, sy'n cyflwyno ar Radio 1 - roedd pleidlais y gwrandawyr yn ddigon i sicrhau mai nhw wnaeth gipio coron 'Amheus' - pencampwyr 2007.
Mae'r wobr i'r band ifanc yn un sylweddol - byddant yn recordio Sesiwn i ni yma ar C2; yn cael ymddangos ar raglenni teledu Bandit ac Uned 5 ar S4C; perfformio yn Maes B, Eisteddfod Caerdydd 2008; chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru; yn ogystal a pherfformio ar Daith Bandit / C2 2008.
Llongyfariadau mawr unwaith yn rhagor i'r Offbeats, a phob dymuniad da iddyn nhw a'r holl fandiau eraill wnaeth gystadlu eleni. Rydym yn gobeithio clywed llawer mwy ganddyn nhw yn y dyfodol.
Galli weld proffeil o'r band buddugol isod:
Yr Offbeats
o Grymych
Neu i weld holl fanylion y gystadleuaeth eleni - proffeiliau o'r bandiau eraill yn y rownd derfynol, lluniau o Rowndiau Rhanbarthol 2008, a manylion yr holl gystadleuaeth cliciwch yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

