Neithiwr ar C2 fe ddaru Meilir Gwynedd o'r Sibrydion ddod mewn i stiwdios moethus C2 i dynnu enwau allan o'r het (neu fwced plastig i fod yn hollol gywir!) i weld pwy fydd yn brwydro yn erbyn eu gilydd yn rownd gyn-derfynol Brwydr y Bandiau, Mentrau Iaith Cymru & C2 Radio Cymru.
Dyma oedd y canlyniad:
Nos Fawrth - 24/03/09
- Smashing Diamonds
- Plant Bach Annifyr
- Steffan Huw
- Y Cnobau
Nos Fercher - 25/03/09
- Nevarro
- Yr Angen
- Corn Biff
- Osian Hedd
Nos Iau - 26/03/09
- Crwydro
- Bettis Muff
- Cymdeithas yr Hobos Unig
- Ji-bincs
Cliciwch yma i fynd i wefan Brwydr y Bandiau 2009 i weld hanes y bandiau/artistiaid.
Fydd yr enillwyr/enillydd yn cael y gwobrau canlynol:
- cytundeb i recordio Sesiwn (3 cân fel arfer) i C2, Radio Cymru
- cyfle i ymddangos ar raglen teledu Uned 5 ar S4C
- cyfle i berfformio yn Maes B, Eisteddfod Genedlaethol 2009
- chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
- cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2009
Cliciwch isod am fanylion llawn y gystadleuaeth a'i rheolau:
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

