Advertisement

Brwydr y Bandiau 2009

Llun o gig

Mae Brwydr y Bandiau yn ol, ac yn fwy nac erioed!

Mae Brwydr y Bandiau yn ol, ac yn fwy nac erioed! Mae C2 a Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am dalent newydd Cymru!

Gwobrau 2009...

  • cytundeb i recordio Sesiwn (3 can fel arfer) i C2, Radio Cymru
  • cyfle i ymddangos ar raglen teledu Uned 5 ar S4C
  • cyfle i berfformio yn Maes B, Eisteddfod Genedlaethol 2009
  • chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
  • cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2009

Mae croeso i fandiau ac artistiaid o unrhyw fath gystadlu - roc, hip-hop, jazz, blues, pop, gwerin, dawns, ayyb. Does dim ots faint o aelodau sydd yn y band ac mae croeso i artistiaid unigol a deuawdau drio.

Mae angen i aelodau'r band fod rhwng 16 a 21 oed. Ni ddylai'r band neu artist fod wedi ryddhau CD sydd ar werth mewn siopau (heblaw am ymddangos ar CD amlgyfrannog), a'u bod yn gallu perfformio tair cân Gymraeg. Mae mor syml â hynny!

I gystadlu, cysylltwch â'ch Menter Iaith leol cyn ddiwedd mis Ionawr 2009 - mae manylion cyswllt ar wefan www.mentrau-iaith.com. Peidiwch ag oedi cyn bwcio'ch lle,!

Cliciwch isod am fanylion llawn y gystadleuaeth a'i rheolau:

Rheolau llawn y gystadleuaeth
Canllawiau Pleidleisio
Côd Ymddygiad Cystadlaethau y BBC

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.