Nos Sadwrn ddiwethaf yn Inverness, yr Alban, daeth y band ifanc o Flaenau Ffestiniog yn fuddugol yng nghystadleuaeth Nòs Ùr i fandiau ieithoedd Celtaidd, gan guro 12 o fandiau eraill o Gymru, Iwerddon, yr Alban, a Llydaw.
Roedd y noson yn un o bedwar cystadleuaeth rhanbarthol ar draws Ewrop, ac fe dderbyniodd Nòs Ùr (sy'n golygu 'arddull newydd' mewn Gaeleg) lawer o ganeuon wedi eu cyfansoddi mewn Gaeleg, Gwyddeleg, Manaweg, Cymraeg a Llydaweg.
Gwrando ar Gruff o'r Annioddefol yn sgwrsio efo Magi
Hon yw'r unig gystadleuaeth o'r fath yn Ewrop, sy'n dilyn ffurf debyg i'r gystadleuaeth Eurovision, gyda chantorion a bandiau yn cynrychioli gwlad, ond yn yr achos yma, yn cynrychioli iaith leiafrifol.
Y cam nesaf i'r Annioddefol felly yw rownd derfynol y gystadleuaeth Ewropeaidd, Liet Lavut, sy'n cael ei gynnal yn Lulea, Sweden, ar Hydref 18ed eleni.
Y bandiau / artistiaid oeddd yn cystadlu yn Inverness nos Sadwrn oedd:
• Aled Myrddin, Cymraeg • Davie Tait, Albaeneg • Dilwyn Llwyd, Cymraeg • Fiona J Mackenzie, Gaeleg yr Alban • Gillebride MacIllemhaoil, Gaeleg yr Alban • Gwennyn Louarn, Llydaweg • Oi Polloi, Gaeleg yr Alban • Gareth Bonello, Cymraeg • Yr Annioddefol, Cymraeg • Phamie Gow, Gaeleg yr Alban • Paula Kehoe, Gwyddeleg • a Lleuwen Steffan, Cymraeg.
Gallwch glywed clips o berfformiadau'r holl fandiau ar wefan y gystadleuaeth - www.nos-ur.eu/
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

