Advertisement

Albym unigol Daniel Lloyd

Daniel Lloyd

Mae'r canwr-gyfansoddwr poblogaidd Daniel Lloyd wedi recordio ei albym gyntaf unigol fydd allan ym mis Gorffennaf.

Mae'r grwp Daniel Lloyd a Mr Pinc yn dal i fynd o nerth i nerth, ond mae'r albym solo hon yn un lle mae Daniel yn rhannu mwy o'i brofiadau personol gyda'i gynulleidfa. Bydd yr albym 'Tro ar Fyd' yn cael ei ryddhau ar label Rasal, ac mae'n glwstwr o ganeuon gwreiddiol, melodig, wedi eu cyfansoddi ar y cyd gyda'r cynhyrchydd Greg Parmer.

Mae Daniel, sy'n wreiddiol o Rosllannerchrugog, eisoes wedi sefydlu ei hun fel canwr-gyfansoddwr roc sy'n apelio at galonnau'r gwrandawyr. Mae'r albym yma'n cadarnhau hynny ac yn cyflwyno deg trac sy'n amrywio o roc melodig a baledi acwstig, i gytganau anthemig, ac yn plethu themâu o gariad, hiraeth ac ansicrwydd.

"Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn rhai cyffrous a gwahanol, yn dod ac ystod o brofiadau pwysig a newydd i mi. Mae profiadau fel gadael fy nghartref a setlo lawr, cyfnodau isel a rhai cyffrous i gyd yn llifo drwy'r caneuon hyn" meddai Daniel.

Mae Daniel a Greg yn rhannu dylanwadau tebyg, a nod yr albym oedd plethu genres a steiliau gwahanol. Ychwanegodd Daniel:

"Dwi'n cael fy nylanwadu gan bob mathau o gerddoriaeth a ro' ni isio adlewyrchu hyn yn yr albym. Mae 'na roc, prog roc, gwerin, Lladin, canu gwlad a jas yn ogystal â chaneuon acwstig arni. Mae hi dal yn 'albym gitâr' ond 'da ni 'di trio ehangu'r palet rhywfaint tro yma... mae yna lot o offerynnau taro, lleisiau cefndir, clychau, melotrons, ffidilau, pedal steels."

Wedi'i recordio gan Greg Parmer yn Sain, Llandwrog, mae'r albym hon yn dangos talent i gyfansoddi caneuon gafaelgar cofiadwy sy'n apelio at bawb.

Rhestr traciau'r CD:
1) Syniad Da
2) Gadael Rhos
3) Take It Or Leave It
4) Welsh Celebrity
5) Y Trywydd Iawn
6) Gwenwyn Yn Fy Ngwaed
7) In a Box (Thinking Of You)
8) Y Llwybr Clir
9) Tro Ar Fyd
10) Y Cyfan Eto

Bydd Tro ar Fyd ar werth o ddydd Llun 6ed o Orffennaf, a'r sengl gyntaf oddi arni - 'Welsh Celebrity' - ar gael i'w lawrlwytho o ddydd Llun, 8fed o Fehefin.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.