Advertisement

Albym gyntaf 'Clinigol'

Clinigol - Melys

Mae'r grwp electro-pop 'Clinigol' newydd ryddhau eu albwm gyntaf, 'Melys' ar label Rasp.

Clinigol yw y brodyr Geraint ac Aled Pickard o Gaerdydd, ac mae albym gyntaf y bad yn cynnwys 12 cân pop, dawns ac electro gyda dylanwadau R&B a hip-pop - gan gynnwys y senglau Y Gwir, Hufen Iâ, Am Wastraff ac Eiliad.

Mae rhestr hir o westeion neu gyfrannwyr gwadd yn ymuno a'r band ar yr albym, ac un o'r gwesteion hynny yw'r actores Siwan Morris (Skins/Caerdydd/Con Passionate) sydd yn canu ar dair cân, gan gynnwys "Sibrwd" - sydd yn ôl y band y gân R&B Americanaidd gyntaf yn y Gymraeg.

Cyfranwraig arall ar 'Melys' yw'r eiconic Heather Jones, enillydd gwobr cyfraniad oes gwobrau RAP Radio Cymru eleni, sydd yn canu ar drac pop/dawns am y tro cyntaf erioed! Hefyd yn ymddangos ar yr albym mae'r rapiwr o Gaernarfon Cofi Bach, sy'n dod â blas hip-hop i'r trac "Gwertha Dy Hun"; y soprano Margaret Williams, sydd yn taro'r 'top C' ar y trac "Gormod/Digon"; ac mae'r gantores ac un gyflwynwyr C2, Nia Medi yn mynd â ni nol i glory days clwbio ar "93".

Dros y misoedd nesaf bydd Clinigol yn gigio ac yn gwneud sawl ymddangosiad ar y teledu i hyrwyddo'r albym newydd, gan gynnwys ar Faes Eisteddfod yr Urdd ac yng Ngwyl Gymraeg Beddllwynog.

Bydd parti lawnsio'r CD yn nhafarn Y Fuwch Goch, Stryd Womanby, Caerdydd ar Nos Wener 12fed o Fehefin am 8yh!

Mae 'Melys' allan ar CD ac yn ddigidol ar y 25ain o Fai.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.