Hwyl Abri yn y Toucan!

ABRI

Gigs acwstic yn y Toucan
Os 'da chi yn ardal Caerdydd ar ddiwedd y mis, peidiwch â synnu os gewch chi'n swyno draw, fel llygoden yn dilyn y pibydd brith, i un o glybiau nos mwya' groovy y ddinas! Ar nos Iau olaf pob mis bydd cyfle i chi glywed rhai o brif grwpiau Cymru'n perfformio setiau byw acwstic yn nghlwb nos y Toucan ar Heol Santes Fair.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ydy trefnwyr y nosweithiau a mae nhw wedi penderfynu galw'r nosweithiau yn Gigs ABRI - sef term archaeloegol i ddisgrifio ogof (hmmmm!). Bwriad y gigs yw i hybu dwyieithrwydd yn y brifddinas a bydd y drysau'n cael eu cicio ar agor am y tro cyntaf ar nos Iau, Awst 28ain gan Davey Crockett (o'r Crimea, a gynt o'r Crocketts). Bydd Maharishi hefyd yn perfformio set acwstic gyda DJ Jaffa yn troelli'r recordiau. (Pris £4)

Mae'n debyg bydd Mim Twm Llai yn headlinio'r nos Iau ar ddiwedd mis Medi (25/09/03) gyda un o DJs enwoca Cymru - Huw Stephens ar y decs.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.