Sut wyt ti wedi cyrraedd lle rwyt ti erbyn hyn?
Wel o ystyried mai gradd mewn seicoleg sydd gen i, dwi'm yn siwr iawn sut dwi 'di cyrraedd fan hyn! Dwi'n meddwl bod pobol jyst 'di sylwi bod fi'n licio siarad, a mae gwaed, chwys a dagrau 'di helpu!
Gig gorau i ti fynychu?
Gig Hanner Pei a Beganifs yn 'Knightleys', y Rhyl ar ddiwedd yr 80au.
Ym mha fand yr hoffet ti fod yn aelod ohoni?
Faswn i ddim yn meindio bod ar daith "on the road" efo Ozzy Osborne!
Ym mha ffilm yr hoffet ti actio ynddi?
Am bod fi 'di rasio ceir mini, mae'n rhaid i mi gyfadde y baswn i wrth fy modd yn gneud y stynts yn The Italian Job.
Dy hoff gân carioci?
'Sunny Afternoon' gan The Kinks
Dy arwr/arwres?
Dad
Be sy'n gwneud i ti grio?
Y ffilm E.T.
Be ydy'r peth mwya' gwallgo i ti ei wneud?
'Zorbio' - rolio lawr allt mewn pelen mawr plastic rhywle yn Dorset! [pam? - gol.]
Gyda phwy yr hoffet ti fynd am ddiod?
Peter Kay
Be ydy'r peth gorau i ti erioed brynu?
Handbag Oren!!!
Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad, gyda phwy?
Weird, trwsgwl a di-fflach! Neuadd y Pentre. Anhysbys.
Posteri o beth oedd gen ti ar wal dy ystafell wely pan yn ifanc?
A-HA (The Sun Always Shines On TV!!!)
Be elli di ddim byw hebddo?
Diet Cola
Dy 'crush' cyntaf?
Patrick Swayze ('Dirty Dancing')
Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
Tlws 'Fastest Lady Driver' mewn ras geir yn Goodwood.
Record cyntaf i ti brynu?
'Atmosphere' gan Russ Abbot
Gwrando
Gwrando'n fyw
Ymlaen nawr: C2: Hefin Thomas (23:02-01:00)
Dwy awr ola darlledu'r dydd yng nghwmni Hefin Thomas.
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

