Tach 29 - 1 Rhag 2004

Huw Stephens

Dewis Huw Stephens

Mae Huw Stephens yn cyflwyno ar C2 bob nos Lun, Mawrth a Mercher am 10pm ar Radio Cymru

Record yr Wythnos - Winabego - Hyder Bregus
Nath hi gymryd dipyn o amser i ddod allan, ond mae hynny'n iawn pan mae hi mor dda a hyn. Pump trac bywiog, llawn riffts a sŵn llawn agwedd, mae EP newydd y band o Fethesda yn un hynod o dda. Wedi ei gynhyrchu gan Dyfrig Evans, gynt o Topper a David Wrench yr Albino 6" talentog, mae'n gymysgfa o ddylanwadau, gyda rhai amlwg falle yn cael eu cyfri fel Pixies, Ffa Coffi Pawb a, ahem, Topper. Ond dydi hwn ddim yn gerddoriaeth blinedig sydd di cael ei neud o'r blaen, ond yn EP ffresh, hydreus ac yn gneud gwrandawiad da. Record yr Wthnos!

Micah P. Hinson - Close Your Eyes a You Lost Sight on Me
Canwr acwstig a gwledig o America. Mae'r albym, Micah P Hinson and the Gospel of Progress yn anhygoel.

Drymbago - Anian
O'r diwedd! CD Drymbago allwn ni brynu! Bach o ffync, bach o acid-jaxx, bach o hud a lledrith. Mae hon ar label newydd Ciwdod.

Dau Cefn - Dwyn Cig Boffi
Un o'r albyms gore, ond bron iawn wedi cael ei anwybyddu eleni gan Dau Cefn o Aberystwyth. Wir i chi - mae ne syniadau a synnau mor dda ar hon, ag er fod fy nghopi I o'r CD bron iawn yn toddi achos ansawdd yr albym (hynny ydi - piti fod e heb ddod allan ar CD iawn), ma'r trac a'r albym yn werth prynu!

Phoenix - I'm an Actor a Run Run Run
Trac o'r albym Phoenix Live Thirty Days Ago, sydd ar gael nawr. Albym byw y band o Baris sy'n hollol wych!

Cofi Bach - Triwch Hi Ar
Fi'n chwarae hwn lot ar C2 am ddau reswm; dyma un o'r tracie mwya' cyffrous fi di clywed yn y Gymraeg ers sbel, a ma hynny'n deud lot achos ma ne gymaint o stwff da wedi dod allan eleni. A'r rheswm arall ydi achos fod hi'n ferch sy'n rapio ac yn dod o bersbectif sydd ddim fel arfer yn cael ei glywed ar y radio neu ar y cyfryngau. O ie, a mae'n ffynci hefyd!

Concretes - Seems Fine Shuffle
Mae'r Concretes yn fand hyfryd o Sweden, a hon yn fersiwn o gân sydd ar albym. Gallwch ffeindio y fersiwn yma ar EP newydd, Warm Night, sy' allan erbyn y 'Dolig, ac yn cynnwys un cân Nadoligaidd. Band neis, cân neis.

Rhai eraill o draciau'r Wythnos
Heather Jones - Paid Eistedd i Lawr
Texas Radio Band -
Mc Mabon - Weithie


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.