Traciau Huw S

Huw Stephens

Tachwedd 15 - Tachwedd 17, 2004

Helo! Dyma be fi wedi bod yn chware ar C2 w'thnos yma...

Record yr w'thnos: Grandaddy - Nature Anthem
Band gwych sy' wedi rhyddhau albyms melodig, prydferth a pherffaith fel Under the Western Freeway a Sumday, a nawr ma nhw wedi rhyddhau casgliad o'u hoff ganeuon gan bobl fel Beck a Snow Patrol a The Handsome Family. Mae'n gyflwyniad da i gerddoriaeth sy'n anaml yn cael ei chlywed ar radio masnachol, ond trac gan Grandaddy ei hunen ydi'r uchafbwynt.

Ashokan - Coes Goch, Aberystwyth a Portread o'r Dyn ei Hun (Disgo Dethin)
Mae albym newydd Ashokan - Ashokan 2 (ie, ail albym y band), allan cyn bo hir ar label Dockrad, ac mae'n werth ei glywed. Mae ei swn wedi aeddfedu falle achos iddyn nhw recordio hwn yn stiwdio Mighty Atom yn Abertawe, lle nath Funeral For a Friend recordio yn aml. Mae'r caneuon yn galed a chryf, ond gyda rhai pert fel Aberystwyth yn rhoi elfen gwahanol ir albym. Yn llawer gwell na'r albym cyntaf mae Ashokan 2 yn albym hynod o gryf.

Roots Manuva - Double Drat
Ar gael i'w lawrlwytho o rootsmanuva.co.uk mae'r rapiwr o Lundain nol gyda albym newydd. Yn dilyn Run Come Save Me, un o'r albyms hip-hop tanddearol gorau erioed, ma steil Mr Manuva yn chwa o awyr iach - yn ffynci a diddorol ar yr un pryd.

Radio Luxembourg - Fuzzy Rugg (Dianc I'r Dwyrain)
Roedd Mozz yn wych, ond erbyn hyn mae dau fand newydd wedi dod o lwch y band yna - Poppies a'r rhein. Meilyr sy'n canu, ac er fod swn eithaf retro i'r demo newydd yma, dydi e ddim yn swn ormodol hen. Nes i weld nhw'n chware yn Clwb Ifor ddim yn rhy hir yn ol, ac mae'n amlwg eu bod nhw'n cael hwyl wrth chware - edrych mlaen i glywed mwy o'u cerddoriaeth. Mae'n nhw'n gigo gyda Ashokan cyn hir hefyd.

Gorky's Zygotic Mynci - Heart of Kentucky
Fy hoff fand, a trac sydd ar y casgliad '20'. Ddim fel unrhyw drac Gorky's arall.

Brigyn - Diwedd y Dydd, Diwedd y Byd
O'r albym newydd, gath adolygiad digon ffafriol gan Guto Brychan a Les Morrisson ar C2 yn ddiweddar. Do ni'm yn ffan mawr o Epitaff ond mae'r albym newydd yn swnio'n dda - gyda llwyth o offerynnau yn cyfrannu i greu swn hamddenol.

Arcade Fire - Haiti
Band newydd o Ganada â swn diogon tebyg i Mercury Rev, ond ma'u swn nhw ychydig yn fwy dwfn.

Dyna ni am nawr. Gweld chi'n fuan!


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.