Dewis Huw S

Huw Stephens

Medi 29, 2004

Record yr W'thnos - Super Furry Animals - the Man Don't Give a F***
Yn wreiddiol roedd hwn fod i ymddangos ar sengl y Furries, If You Don't Want Me to Destroy, ond wedyn ddaeth hi allan fel sengl ar ben ei hun, ar feinyl Cardiff City Glas, feinyl 12" a CD cyfyngedig. Dim ond am wythnos roedd y sengl ar gael, felly os oes gennoch chi gopi - daliwch arni'n dynn.
Na'th hi hefyd ymddangos ar gasgliad ochrau B yr SFA, Outspaced. Ond nawr mae hi allan fel sengl ar ei phen ei hun eto - fersiwn 22 munund gwych wedi ei recordio yn fyw yn ystod gig y Furries yn Hammersmith Apollo, Llundain. Roedd rhaid gwneud fersiwn arbennig ohonni i chware ar y radio (wrth reswm), ond hon oedd fy Record yr W'thnos yr wythnos hon.

A mwy o'r rhestr chware -
Poppies - Mini (demo gan y band gwych o Aberystwyth)
Joanna Newsom -Bridges and Balloons (telynores ifanc sy'n canu gwlad - stwff gwych!)
Alun Tan Lan - Banjo (o'r albym hyfryd Aderyn Papur ar label Rasal)
High Contrast - Racing Green (dyn drwm a bas y foment o Benarth, o'r albym High Society sy allan nawr)
Ummh gyda Aron o Pep le Pew - Mwy (Ummh o Abertawe - checiwch allan yr albym ffynci Amheuthun)
Brian Wilson - Heroes and Villains (o'r albym gymrodd 37 mlynedd i gwblhau, Smile, sydd allan nawr)
Soft Hearted Scientists - Brother Sister (o'r record The Bethesda EP, sydd allan ar label My Kung)


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.