Mehefin 8 - 9, 2004

Huw Stephens

Traciau Huw S

Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm. Dyma ddetholiad o draciau'r wythnos:

David Wrench - Superhorny
Sengl newydd a gwych yr Albino chwe troedfedd o Fangor. Roedd David Wrench arfer bod yn y band Nid Madagascar ond ers hynny mae wedi bod yn canolbwyntio ar gynhyrchu a peiriannu sesiynau i fandiau fel The Coral, Shack a Zabrinski ymysg llawer mwy. Mae hon allan nawr ac yn sengl "poppy", gwallgof a hynod o gofiadwy.

Topper - Ofn Gofyn
Oddiar yr EP Dolur Gwddw daeth allan ar label Crai (Sain) nôl yn 2000. Peidiwch byth gofyn i aelod o Zabrinski am Topper - fyddwch chi yne trw'r dydd yn clywed am gymaint mae nhw'n caru'r band, sy'n ddigon teg, achos roedden nhw yn wych. Dyfrig o Topper sydd yn cynhyrchu EP newydd Winabego, fydd yn dod allan ar label Rasal. Fi'n cofio pan nath Mark o'r Cyrff gynhyrchu EP Topper unwaith. Sut ma pethe'n newid!

The Bees - I Love You
Ma'r Bees yn dod o'r Isle of Wight, neu i'r rhai ohonoch sy'n siarad Cymraeg, Ynys Wyth (chi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd!). Enw eu hail albwm yw Free the Bees - mae'n wrandawiad gwych ac ma'r trac yma oddi arni.

Kenavo - Shamio'r Gath
Mae EP newydd Kenavo - Twix, Crisps a Bechdan Tywod ar gael nawr ar www.kenavo.2ya.com ond ma'r trac yma oddi ar demo cynnar y band. Ma nhw wedi bod yn gigio yn ddiweddar ac yn mynd i fod yn cefnogi'r Goldie Lookin Chain ym Mangor ar Fehefin y 23ain yn Neuadd Hendre. Gwyliwch am grysau-t newydd Kenavo sy'n cynnwys y geiriau anfarwol "chwiaigwyddost". Neis.

Phoenix - If It's Not with You
Trac arall gwych gan Phoenix - y band o Baris. Nes i weld nhw ar fy mhenblwydd rhyw bythefnos nôl a roedden nhw'n WYCH! Ma hon oddi ar yr albym Alphabetical sydd allan nawr.

Bydd y Byddariaid yn Clywed - Fix
Sesiwn diweddara C2 a ma hi'n "boeth"! Lo Cut sy'n rapio ac aelode o'r band Adequate 7 sy'n chwarae'r offerynne - mae'r gymysgfa o hip hop a roc yn chwa o awyr iach. Cliciwch yma i glywed y sesiwn yn llawn.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.